Soldier Blue

ffilm ddrama am y Gorllewin gwyllt gan Ralph Nelson a gyhoeddwyd yn 1970

Mae Soldier Blue yn ffilm Western Americanaidd a gynhyrchwyd yn 1970, wedi ei chyfarwyddo gan Ralph Nelson, sy'n adrodd hanes ffuglennol digwyddiadau yn 1864 seiliedig ar hanes gwir Cyflafan Sand Creek yn Nhiriogaeth Colorado, UDA.

Soldier Blue

poster ffilm wreiddiol
Cyfarwyddwr Ralph Nelson
Cynhyrchydd Gabriel Katzka
Harold Loeb
Ysgrifennwr Theodore V. Olsen
Serennu Candice Bergen
Peter Strauss
Donald Pleasence
Cerddoriaeth Roy Budd
Sinematograffeg Robert B. Hauser
Dylunio
Dosbarthydd AVCO Embassy
Dyddiad rhyddhau 12 Awst, 1970
Amser rhedeg 112 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Sgriptiwyd y ffilm gan John Gay yn seiliedig ar y nofel Arrow in the Sun gan Theodore V. Olsen, ac mae'n serennu Candice Bergen, Peter Strauss, a Donald Pleasence. Perfformiwyd y gân deitl gan Buffy Sainte-Marie.

Cynllun golygu

Wedi ei rhyddhau ar anterth Rhyfel Fietnam yn erbyn cefndir y achos tribiwnlys milwrol yn deillio o Gyflafan My Lai, cyflwynodd y ffilm yr adroddiad sinematig cyntaf o un o'r digwyddiadau mwyaf drwgenwog yn hanes rhyfeloedd yr Unol Daleithiau ar bobloedd brodorol Gogledd America, pan gyflawnodd milwyr yn perthyn i filisia talaith Colorado dan arweiniad y Colonel John M. Chivington gyflafan yn erbyn pentref diamddiffyn o bobl Cheyenne ac Arapaho ar wastadeddau dwyreiniol Colorado. Lladdwyd rhai cannoedd o Indiaid, y rhan fwyaf ohonynt yn ferched, plant a henoed.

Mae hanes y gyflafan yn cael ei osod ar gefndir ffuglennol am hanes goroeswyr ymosodiad gan Indiaid ar uned o filwyr Marchoglu'r Unol Daleithiau.

Ffilm ddadleuol golygu

 
Rhybudd mewn sinemau

Roedd y ffilm yn ddadleuol ar y pryd nid yn unig oherwydd ei phwnc fel revisionist Western, ond am ei phortread graffig iawn o drais. Aeth y cyfarwyddwr Nelson, sy'n ymddangos yn y ffilm ei hun, i lefelau newydd amlwg yn ei bortread o drais, gan ddangos golygfeydd o drais rywiol realistig ynghyd â golygfeydd brwydr sy'n dangos bwledi'n taro cyrff a merched a phlant yn cael eu cigyddu'n ddidrugaredd gan filwyr.

Credydau golygu

Avco Embassy Pictures, 1970

Cast golygu

[[Delwedd:Pstrauss.png|bawd|Peter Strauss [[Delwedd:Jrivero.png|bawd|Jorge Rivero