Solomon
Solomon, hen ffurf Gymraeg Selyf a hefyd Salmon (Hebraeg: שלמה, "Shlomo", Arabeg: سليمان"Süleyman"), oedd brenin teyrnas unedig Israel yn ystod ei Hoes Aur. Teyrnasodd o tua 975 CC neu 970 CC hyd 925 CC. Yn ôl yr Hen Destament, ef oedd yn gyfrifol am adeiladu'r deml gyntaf yn Jeriwsalem, Teml Solomon.
Solomon | |
---|---|
Ganwyd | c. 990 CC Palesteina |
Bu farw | c. 931 CC Jeriwsalem |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Israel |
Galwedigaeth | teyrn, proffwydi Islam |
Blodeuodd | 10 g CC |
Swydd | King of Israel, proffwyd |
Adnabyddus am | Teml Solomon |
Tad | Dafydd |
Mam | Bathseba |
Priod | Naamah, a Pharaoh's daughter, Unknown |
Partner | Brenhines Sheba, Unknown |
Plant | Rehoboam, Menelik I, Basemath, Tafat |
Llinach | Cyff Dafydd |
Roedd Solomon yn fab i'r brenin Dafydd a'i wraig Bathseba. Roedd yn enwog am ei ddoethineb a'i gyfoeth. Fodd bynnag, roedd anfodlonrwydd ynghylch y trethi uchel a godai ar y wlad, ac wedi ei farwolaeth, ymrannodd y deyrnas yn ddwy ran, Israel a Jiwda.
Yn draddodiadol, priodolir Caniad Solomon iddo, ond ystyrir bod y gwaith yma yn deillio o gyfnod diweddarach.