Corff dynol a adfywiwyd gan ddewin neu offeiriad fwdw ac sydd dan ei reolaeth lwyr yw sombi (lluosog: sombïod, sombïaid neu sombis).[1][2] Yn ôl traddodiad bydd enaid y person yn cael ei ddwyn gan ddewiniaeth ddu, gan ei droi'n ddi-fywyd. Bydd y dewin fwdw yn claddu'r corff, ac yn hwyrach yn ei ddatgladdu i gael caethwas.[3] O bosib y sombi yw'r elfen enwocaf o fwdw, er nad yw'n chwarae rhan mewn arfer ffurfiol y grefydd honno.

Darlun dychmygol o sombi mewn cae yn Haiti.

Mae dewiniaid fwdw yn ceisio creu sombïod gan ddefnyddio gwenwyn sy'n bwrw person i berlewyg. Mae'r gyfraith yn Haiti yn ceisio atal yr arfer hon.[3]

Defnyddir y gair "sombi" hefyd yn niwylliant y Gorllewin i gyfeirio at y meirw byw, sy'n seiliedig ar syniadau Ewropeaidd sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol a ddychmygai'r meirw yn codi o'r bedd ac yn ymosod ar y byw. Celain bydredig, heb allu siarad na meddwl, sy'n goroesi trwy fwyta pobl yw'r portread arferol mewn straeon a ffilmiau arswyd.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  sombi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Mai 2015.
  2. Geiriadur yr Academi, [zombie].
  3. 3.0 3.1 Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 468 [zombi].