Roedd Sophie Magdalena Scholl (9 Mai 1921 - 22 Chwefror 1943) yn ymgyrchydd gwleidyddol gwrth Natsïaidd a oedd yn weithredol o fewn y grŵp ymgyrchu di drais Weiße Rose (Y Rhosyn Gwyn) yn yr Almaen Natsïaidd.[1]

Sophie Scholl
GanwydSophia Magdalena Scholl Edit this on Wikidata
9 Mai 1921 Edit this on Wikidata
Forchtenberg Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata
Munich Prison Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmyfyriwr mewn prifysgol, gwrthryfelwr milwrol Edit this on Wikidata
TadRobert Scholl Edit this on Wikidata
MamMagdalena Scholl Edit this on Wikidata

Cafodd ei dyfarnu'n euog o uchel frad ar ôl cael ei ddarganfod yn dosbarthu taflenni gwrthryfel ym Mhrifysgol Munich gyda'i brawd, Hans. O ganlyniad, fe'u dienyddwyd gan gilotîn. Ers y 1970au, mae Scholl wedi cael ei goffáu'n helaeth am ei gwaith gwrthsefyll Natsïaidd[2][3].

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Scholl yn Forchtenberg am Kocher, Baden-Württemberg yn ferch i Robert Scholl, maer y dref ar adeg ei genedigaeth, a Magdelena (née Müller) ei wraig. Roedd Robert Scholl yn wleidydd rhyddfrydol ei ddaliadau ac yn feirniad o'r Natsïaid.

Roedd Sophie yn bedwaredd o chwech o blant:

  • Inge Scholl (Aicher) (1917–1998)
  • Hans Scholl (1918–1943), cafodd ei ddienyddio gyda'i chwaer
  • Elisabeth Scholl (Hartnagel) (ganwyd 1920), priododd gariad hirdymor Sophie, Fritz Hartnagel
  • Sophie Scholl (1921–1943)
  • Werner Scholl (1922-1944) wedi mynd ar goll wrth wasanaethu yn y fyddin; rhagdybir ei fod wedi marw ym mis Mehefin 1944
  • Thilde Scholl (1925–1926)

Addysg golygu

Ym 1930, symudodd y teulu i Ludwigsburg ac wedyn i Ulm dwy flynedd yn niweddarach, lle fu ei thad yn gweithio fel ymgynghorydd busnes. Mynychodd ysgol uwchradd i ferched yn Ulm gan ymuno â Bund Deutscher Mädel (Urdd Morwynion yr Almaen) - adain fenywod mudiad ieuenctid y Natsïaid. Yn fuan pylodd ei brwdfrydedd dros achos yr urdd a daeth yn wrthwynebydd i syniadaeth Natsïaidd.

Ymadawodd a'r ysgol ym 1940 gan gael swydd fel athrawes ysgol feithrin. Roedd hi'n gobeithio byddai cyfnod yn gweithio fel athrawes meithrin yn ei hesgusodi rhag gorfod gwneud Reichsarbeitsdienst (gwasanaeth gwladol gorfodol), a oedd yn un o hanfodion cael mynediad i brifysgol. Profodd ei obaith yn ofer ac ym 1941 cychwynnodd cyfnod o chwe mis o wasanaeth rhyfel cynorthwyol.

Wedi ei chwe mis o wasanaeth gwladol ymunodd â Phrifysgol München ym 1942 i astudio bywydeg ac athroniaeth. Roedd Hans, ei frawd, eisoes yn yr un brifysgol yn astudio meddygaeth. Daeth yn rhan o griw o ffrindiau, a oedd yn cynnwys Hans, oedd yn rhannu diddordebau llenyddol, celfyddydol a chymdeithasol. Datblygodd y criw i fod yn grŵp o bobl oedd yn feirniadol o'r Natsïaid.

Yn München, cyfarfu Scholl â nifer o artistiaid, awduron ac athronwyr, yn enwedig Carl Muth a Theodor Haecker, a oedd yn gysylltiadau pwysig iddi. Y cwestiwn yr oeddent yn ei drafod fwyaf oedd sut dylai unigolyn weithredu o dan unbennaeth. Yn ystod gwyliau'r haf 1942, bu'n rhaid i Scholl cyflawni gwasanaeth rhyfel mewn ffatri fetelegol yn Ulm. Ar yr un pryd, roedd ei thad yn y carchar gan iddo wneud sylw beirniadol i gydweithiwr am Hitler.

Y Rhosyn Gwyn golygu

Daeth Scholl yn ymwybodol o fodolaeth Mudiad y Rhosyn Gwyn pan welodd un o'u taflenni yn y brifysgol. O ddeall bod ei brawd yn rhannol gyfrifol am y daflen dechreuodd hi i weithredu yn y mudiad hefyd. Roedd y grŵp wedi derbyn adroddiadau gan Fritz Hartnagel, cariad Sophie. Roedd Hartnagel yn gwasanaethu gyda byddin yr Almaen ar y ffrynt dwyreiniol. Roedd ei adroddiadau yn sôn am erchyllterau'r Almaen yn saethu carcharorion rhyfel a'r ymdrechion at ddifodiant yr Iddewon.

Yn wreiddiol roedd yr aelodau craidd yn cynnwys Hans Scholl (brawd Sophie), Willi Graf, Christoph Probst ac Alexander Schmorell (cafodd Schmorell ei ganoneiddio gan yr Eglwys Uniongred Rwsia yn 2012). Roedd Hans yn awyddus i'w gadw ei weithgaredd oddi wrth Sophie. Ond unwaith iddi ganfod bodolaeth y grŵp a rhan ei brawd ynddi roedd yn awyddus i ymuno.

Creodd y grŵp tri phamffled newydd a'u dosbarthu dros gyfnod yr haf 1942. Gan ddefnyddio dadleuon Beiblaidd ac athronyddol roedd y pamffledi yn annog Almaenwyr i wrthsefyll llywodraeth y Natsïaid trwy ddulliau di drais.

Dienyddiad golygu

 
Beddau Sophie & Hans Scholl a Christoph Probst

Cafodd Sophie a gweddill aelodau'r Rhosyn gwyn eu harestio am ddosbarthu chweched daflen y mudiad yn y Brifysgol ar 18fed Chwefror 1943. Cawsant eu dwyn o flaen llys ar 22 Chwefror 1943. Cafwyd Sophie, Hans a'u cyfaill Christoph Probst yn euog o frad a'u dedfrydu i farwolaeth. Cawsant eu dienyddio gan gilotîn yn hwyrach ar yr un diwrnod[4]. Cawsant eu claddu yn y Perlacher Friedhof, ger carchar Stadelheim, München.

Cyfeiriadau golygu