Southall
Ardal faestrefol ym Mwrdeistref Llundain Ealing, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Southall.[1] Saif tua 10.7 milltir (17.2 km) i'r gorllewin o ganol Llundain.[2]
Math | ardal o Lundain, tref |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Ealing |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Hayes |
Cyfesurynnau | 51.5111°N 0.3756°W |
Cod OS | TQ125805 |
Mae Southall yn un o gymunedau mwyaf Prydain o bobl o India a Phacistan. Mae ganddi ddeg gurdwara, yn cynnwys y Gurdwara Sri Guru Singh Sabha, un o demlau Sikh mwyaf y byd y tu allan i India. Yn ogystal, ceir dwy deml ("Mandir") Hindw a thair mosg.
Yn yr 1920au a'r 1930au daeth Southall yn gartref i nifer o ymfudwyr o Gymru a ddaeth i chwilio am waith. Roedd acenion Cymraeg i'w clywed yn gyson yn yr ardal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Mai 2019
- ↑ Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.