St Ives (etholaeth seneddol)
Etholaeth seneddol yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw St Ives. Mae'n cynnwys nid yn unig ardal ar y tir mawr ond Ynysoedd Syllan hefyd. Dychwela un AS i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan, sef yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau.
-
Etholaeth St Ives yng Nghernyw
-
Cernyw yn Lloegr
Math | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | De-orllewin Lloegr |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 530.4 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 50.21°N 5.48°W ![]() |
Cod SYG | E14000964 ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd St Ives fel etholaeth fwrdeistrefol yn 1558. Dychwelodd ddau aelod seneddol tan 1832, ac ar ôl hynny dim ond un aelod. Daeth yn etholaeth sirol a ddychwelodd un aelod yn 1885.
Aelodau Seneddol Golygu
ar ôl 1885:
- 1885–1887: John St Aubyn (Rhyddfrydol, wedyn Unoliaethol Ryddfrydol)
- 1887–1900: Thomas Bedford Bolitho (Unoliaethol Ryddfrydol)
- 1900–1906: Edward Hain (Unoliaethol Ryddfrydol, wedyn Rhyddfrydol)
- 1906–1922: Clifford Cory (Rhyddfrydol)
- 1922–1923: Anthony Hawke (Ceidwadol)
- 1923–1924: Clifford Cory (Rhyddfrydol)
- 1924–1928: Anthony Hawke (Ceidwadol)
- 1928–1929: Hilda Runciman (Rhyddfrydol)
- 1929–1937: Walter Runciman (Rhyddfrydol, wedyn Rhyddfrydol Cenedlaethol)
- 1937–1950: Alec Beechman (Rhyddfrydol Cenedlaethol)
- 1950–1966: Greville Howard (Rhyddfrydol Cenedlaethol)
- 1966–1983: John Nott (Rhyddfrydol Cenedlaethol, wedyn Ceidwadol)
- 1983–1997: David Harris (Ceidwadol)
- 1997–2015: Andrew George (Y Democratiaid Rhyddfrydol)
- 2015–presennol: Derek Thomas (Ceidwadol)
Bridgwater a Gorllewin Gwlad yr Haf · Caerfaddon · Caerloyw · Caersallog · Caerwysg · Camborne a Redruth · Canol Dorset a Gogledd Poole · Canol Dyfnaint · Cotswolds · Cheltenham · Chippenham · Christchurch · De Bryste · De Dorset · De Swindon · De-ddwyrain Cernyw · De-orllewin Dyfnaint · De-orllewin Wiltshire · Devizes · Dwyrain Bournemouth · Dwyrain Dyfnaint · Dwyrain Bryste · Filton a Bradley Stoke · Fforest y Ddena · Gogledd Cernyw · Gogledd Dorset · Gogledd Dyfnaint · Gogledd Gwlad yr Haf · Gogledd Swindon · Gogledd Wiltshire · Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf · Gogledd-orllewin Bryste · Gorllewin Bournemouth · Gorllewin Bryste · Gorllewin Dorset · Kingswood · Newton Abbot · Plymouth Moor View · Plymouth Sutton a Devonport · Poole · St Austell a Newquay · St Ives · Somerton a Frome · Stroud · Taunton Deane · Tewkesbury · Tiverton a Honiton · Torbay · Torridge a Gorllewin Dyfnaint · Totnes · Truro ac Aberfal · Thornbury a Yate · Wells · Weston-super-Mare · Yeovil