Stadiwm Olympaidd Rhufain
Stadiwm chwaraeon cenedlaethol yr Eidal yw'r Stadiwm Olympaidd Rhufain (Eidaleg: Stadio Olimpico. Fe'i lleolir yng nghyfadail chwaraeon y Foro Italico yn Rhufain. Adeiladwyd y stadiwm gwreiddiol ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1960, ond fe'i ail-adeiladwyd ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 1990. Mae'r stadiwm yn dal tua 82,000 o bobl. Mae dau dîm pêl-droed y ddinas, S.S. Lazio ac A.S. Rhufain, ac mae nhw'n rhannu'r stadiwm.
Math | stadiwm Olympaidd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 17 Mai 1953 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhufain |
Sir | Rhufain |
Gwlad | Yr Eidal |
Cyfesurynnau | 41.9339°N 12.4547°E |
Perchnogaeth | Sport e Salute |
Cost | 3,400,000,000 lira'r Eidal |
Ers 2014 mae tîm rygbi cenedlaethol yr Eidal wedi chwarae eu gemau cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y Stadio Olimpico tra bod eu cartref arferol, y Stadio Flaminio, yn cael ei adnewyddu.
Oriel
golygu-
Seremoni agoriadol Gemau Olympaidd 1960