Star Wars Episode IV: A New Hope
Ffilm ffugwyddonol gan George Lucas sy'n serennu Mark Hamill, Carrie Fisher a Harrison Ford yw Star Wars (hefyd Star Wars Episode IV: A New Hope) (1977). Franchise o ddau drioleg o ffilmiau ydyw mewn gwirionedd sydd wedi datblygu'n llyfrau, gemau cyfrifiadurol a chomics. Rhyngddynt, crewyd bydysawd ffug drwy gydol yr 16 mlynedd rhwng y ddwy gyfres. Darlunir galaeth dychmygol, pell iawn i ffwrdd o blaned Daear, ble mae'r Jedi yn cynrychioli'r da a'r Sith yn cynrychioli'r drwg. Yr arf, fel arfer, yw'r saber-golau (lightsaber) a cheir nifer o themâu, gydag elfennau o athroniaeth a chrefydd yn nadreddu drwy'r themâu hynny.
![]() | |
---|---|
Cyfarwyddwr | George Lucas |
Serennu | Mark Hamill Harrison Ford Carrie Fisher Alec Guiness Peter Mayhew Kenny Baker Anthony Daniels Peter Cushing David Prowse James Earl Jones |
Cerddoriaeth | John Williams |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 25 Mai 1977 |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Olynydd | Star Wars Episode V: The Empire Strikes Back |
Lansiwyd y ffilm cyntaf ar 25 Mai 1977 gyda'r teitl Star Wars a hynny gan 20th Century Fox a daeth yn hynod o boblogaidd ledled y byd. Yn hydref 2012, prynnodd The Walt Disney Company Lucasfilm am $4.05 biliwn a chyhoeddodd ei fwriad o greu trydedd cyfres gyda'r gyntaf o'r dair Star Wars Episode VII, yn gweld golau dydd yn 2015.[1]
CymeriadauGolygu
- Luke Skywalker - Mark Hamill
- Han Solo - Harrison Ford
- Y Dywysoges Leia - Carrie Fisher
- Darth Vader - David Prowse; James Earl Jones (llais)
- Obi-Wan Kenobi - Alec Guiness
- C3PO - Anthony Daniels
- R2D2 - Kenny Baker
- Chewbacca - Peter Mayhew
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Nakashima, Ryan (20 Hydref 2012). "Disney to make new 'Star Wars' films, buy Lucas co". MSN Money. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-03. Cyrchwyd 31 Hydref, 2012. Check date values in:
|accessdate=
(help)