Actor Seisnig-Americanaidd oedd Peter William Mayhew (19 Mai 194430 Ebrill 2019) a oedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu Chewbacca yn y gyfres ffilm Star Wars. Chwaraeodd y cymeriad mewn ymddangosiadau byw o'r ffilm wreiddiol yn 1977 hyd at The Force Awakens yn 2015 cyn iddo ymddeol o'r rôl.

Peter Mayhew
GanwydPeter William Mayhew Edit this on Wikidata
19 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Barnes Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 2019 Edit this on Wikidata
Boyd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, cynorthwyydd nyrs, actor, actor teledu Edit this on Wikidata
Taldra218 centimetr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.chewbacca.com Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Peter Mayhew ar 19 Mai 1944 yn Barnes, Surrey.[1] Nid oedd ei daldra o ganlyniad i gigantiaeth; "Does gen i ddim y pen mawr", meddai Mayhew pan ofynnwyd iddo am achos ei daldra.[2][3] Ei daldra uchaf oedd 7 feet 3 inches (2.21 m).[4]

Gwaith cynnar golygu

Cafodd Mayhew ei swydd actio cyntaf ym 1976 pan fe'i ddarganfyddwyd gan gynhyrchwyr Sinbad and the Eye of the Tiger mewn erthygl papur newydd am ddynion â thraed mawr, ac fe'i ddewiswyd i chwarae rôl y minotaur.[5][6]

 
Mayhew mewn llun adrannol o'r adran radioleg, Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain, 1972
 
Mayhew yn Big Apple Con, 14 Tachwedd 2008, yn eistedd o flaen delwedd o Chewbacca

Wrth gastio ei ffilm Star Wars gyntaf, roedd y crëwr George Lucas angen actor tal a allai chwarae rhan yr aliwn blewog Chewbacca. Yn wreiddiol roedd yn ystyried y corffluniwr 6 feet 6 inches (1.98 m) David Prowse, ond dewisodd Prowse chwarae Darth Vader. Yn dilyn proses o chwilio gan Lucas, darganfu Mayhew, a oedd yn gweithio fel cynorthwywr yn adran radioleg Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain,[7] a dywedodd mai'r unig beth oedd rhaid iddo ei wneud i chwarae rhan Chewbacca oedd sefyll.[8][9]

Chwaraeodd Mayhew ran Chewbacca mewn pum ffilm Star Wars: y drioleg wreiddiol (Star Wars, The Empire Strikes Back a Return of the Jedi ), Star Wars: Pennod III - Revenge of the Sith a Star Wars: The Force Awakens.[10] Chwaraeodd y rôl yn y ffilm deledu Star Wars Holiday Special yn 1978 ac mewn ymddangosiad yn 1980 ar The Muppet Show. Cofnododd hefyd ddeialog ar gyfer pennod olaf Cyfres 3 "Star Wars: The Clone Wars" sef "Wookiee Hunt".[11][12]

Chwaraeodd Mayhew y rôl mewn hysbysebion, gwnaeth ymddangosiadau mewn ysbytai i blant sâl, ac ymddangosodd fel Chewbacca y tu allan i ffilmiau Star Wars. Cafodd Mayhew, yn ymddangos fel Chewbacca, ei anrhydeddu â Gwobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Ffilm MTV 1997.[13] Yn ogystal, cafodd ei anrhydeddu pan ryddhawyd y PlayStation Portable newydd pan wisgodd fel Chewbacca a dal fyny fersiwn newydd y PSP.[14]

Gwnaeth hefyd ymddangosiadau eraill ar y cyfryngau heb chwarae Chewbacca. Ymddangosodd ar raglen NBC, Identity, lle'r oedd ei hunaniaeth yn seiliedig ar y ffaith iddo chwarae Chewbacca a roedd yn westai cyson yn nyddiau cynnar Slice of SciFi.[15]

Tra bod Mayhew wedi portreadu Chewbacca yn Star Wars: The Force Awakens, nid oedd yn Star Wars: The Last Jedi ond fe'i rhestrwyd yn y credydau fel "Chewbacca Consultant".[16] Ymddeolodd Mayhew o chwarae Chewbacca oherwydd problemau iechyd. Rhannodd Mayhew y gwaith o bortreadu Chewbaca gyda Joonas Suotamo yn Star Wars: The Force Awakens, a cymerwyd y rhan gan Suotamo mewn ffilmiau Star Wars a ddilynodd.[17][18]

Gwaith arall golygu

Y tu allan i Star Wars, ymddangosodd Mayhew yn y ffilm arswyd arswyd Terror (1978), a gyfarwyddwyd gan Norman J. Warren.[19][20] Yn fersiwn Saesneg Dragon Ball GT: A Hero's Legacy, lleisiodd y cymeriad Susha [21] Ymddangosodd hefyd yn Yesterday Was A Lie.[22]

Llyfrau golygu

Ysgrifennodd Mayhew ddau lyfr ar gyfer gynulleidfa iau: Growing Up Giant,[23] sy'n esbonio mai cryfder yw bod yn wahanol nid gwendid, a'r llyfr gwrth-fwlio i blant My Favorite Giant.[24]

Bywyd personol golygu

Roedd Mayhew yn byw gyda'i wraig Mary Angelique ("Angie") yn Boyd, Texas,[25] ac roedd yn berchennog busnes. Cafodd ei dderbyn yn ddinesydd o'r Unol Daleithiau yn 2005 mewn seremoni yn Arlington, Texas.[26][27] Mewn cyfweliad gyda Fort Worth Star-Telegram dyweddodd nad oedd wedi cael medal yn y seremoni hon chwaith, cyfeiriad at olygfa Star Wars lle mae Luke Skywalker a Han Solo yn derbyn medalau ond nid Chewbacca. Nododd Mayhew mewn cyfweliad MTV, er nad yw Chewbacca yn cael medal yn y ffilm, mae ef sy'n cael y llinell olaf, pan mae'n bloeddio.[28]

Cafodd Mayhew lawdriniaeth amnewid pen-glin dwbl yn 2013.[29] Ym mis Ionawr 2015, aeth Mayhew i'r ysbyty am gyfnod byr, ger ei gartref yn Texas, oherwydd pwl o niwmonia.[30][31] Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Mayhew drwy Twitter ei fod wedi llwyddo i gael llawdriniaeth asgwrn cefn amhenodol i wella ei symudedd, a'i fod yn gwella.

Bu farw Mayhew o drawiad ar y galon ar 30 Ebrill 2019 yn ei gartref yn Boyd, Texas, yn 74 mlwydd oed.[32]

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau Cyf.
1977 Sinbad and the Eye of the Tiger Minoton Heb gydnabyddiaeth [5]
Star Wars Chewbacca [10]
1978 Terror The Mechanic [20]
1980 The Empire Strikes Back Chewbacca [10]
1982 Return of the Ewok Fideo fer [33]
1983 Return of the Jedi [10]
1987 Star Tours Ffilm fer, heb gydnabyddiaeth [34]
2004 Dragon Ball GT: A Hero's Legacy Susha Rhan llais;

Dyb Saesneg
[21]
2004 Comic Book: The Movie Ei hun [35]
2005 Star Wars: Episode III – Revenge of the Sith Chewbacca [10]
2008 Yesterday Was a Lie Dead Man [22]
2015 Star Wars: The Force Awakens Chewbacca Rhannu'r rôl gyda Joonas Suotamo [10]
2016 Killer Ink Uncle Clyde [20]
2017 Star Wars: The Last Jedi Ddim ar gael Ymgynghorydd Chewbacca [16]
2018 Solo: A Star Wars Story [36]

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1977 Donny & Marie Chewbacca [37]
1978 Star Wars Holiday Special Rhifyn Arbennig i deledu[38]
1980 The Muppet Show Pennod: The Stars of Star Wars[39]
1981 Dark Towers The Tall Knight [20]
1985 The Kenny Everett Television Show Amrywiol Pennod #3.3[40]
2011 Star Wars: The Clone Wars Chewbacca Rhan llais; Pennod: Wookiee Hunt[41]
Glee Pennod: Extraordinary Merry Christmas[42]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Peter Mayhew". Famous Birthdays. Cyrchwyd 2 Mai 2019.
  2. Quinn, Karl (12 Ebrill 2014). "Star Wars actor Peter Mayhew in Melbourne for Supernova fan convention". The Sydney Morning Herald. Cyrchwyd 12 Ebrill 2014.
  3. Vankin, Jonathan (20 Ionawr 2015). "'Star Wars' actor, Peter 'Chewbacca' Mayhew, 70, stricken with pneumonia – sends fans message from hospital". Inquisitr. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2015.
  4. "Peter Mayhew". PeterMayhew.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mai 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 Clark, Mark (2015). Star Wars FAQ: Everything Left to Know About the Trilogy That Changed the Movies. Applause Theatre & Cinema Books. ISBN 978-1-48036-018-1.
  6. Hutchinson, Sean (19 Mai 2015). "15 Chewbacca Facts in Honour of Peter Mayhew's Birthday". Mental Floss. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2015.
  7. Weiss, Josh (2 Mai 2019). "Peter Mayhew, original Chewbacca actor in Star Wars, passes away at 74". SYFY Wire (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  8. Williamson, Brett (19 Tachwedd 2015). "The man who is Chewbacca shares tall tales Down Under". ABC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  9. Sparkes, David (3 Mai 2019). "A great 'walking carpet': Chewbacca actor Peter Mayhew dies". ABC Radio (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 Child, Ben (8 Ebrill 2014). "Original Chewbacca actor set to return in Star Wars: Episode VII". The Guardian. Cyrchwyd 22 Mai 2016.
  11. "Remaking Wookiee: Chewbacca Becomes a Character on 'Star Wars: The Clone Wars'". The New York Times. 17 Chwefror 2011. Cyrchwyd 31 Mai 2011.
  12. "The Clone Wars Episode Guide: Wookiee Hunt". StarWars.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-02. Cyrchwyd 1 Ebrill 2011.
  13. Chilton, Martin (13 Rhagfyr 2011). "Chewbacca film on Hollywood Black List". Telegraph Media Group Limited. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  14. "15 Candid Secrets Revealed About Peter Mayhew | Fan World". FanWorld.co. 21 Rhagfyr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-06. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  15. Brooks, Summer (26 Hydref 2005). "Slice of SciFi #30: Interview with Peter Mayhew (Chewbacca, "Star Wars")". Slice of SciFi. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  16. 16.0 16.1 "Star Wars: The Last Jedi - full credits". IMDb. Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.
  17. Hawkes, Rebecca (6 Ionawr 2016). "The 'secret' Chewbacca: meet the 6'11" basketball star who shared the role with Peter Mayhew in Star Wars: The Force Awakens". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 11 Mehefin 2017.
  18. Orange, B. Alan (6 Ionawr 2016). "Meet The New Chewbacca Actor in Star Wars: The Force Awakens". MovieWeb. Cyrchwyd 4 Hydref 2018.
  19. Wood, Chris (27 Chwefror 2010). "Terror (1978)". British Horror Films. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  20. 20.0 20.1 20.2 20.3 Boucher, Geoff; Petski, Denise; Pedersen, Erik (2 Mai 2019). "Peter Mayhew Dies: 'Star Wars' Chewbacca Actor Was 74". Deadline (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  21. 21.0 21.1 Walter, Joseph (22 Gorffennaf 2018). "20 Crazy Things Only True Fans Know About Dragon Ball GT". ScreenRant (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  22. 22.0 22.1 Chilton, Martin (4 Mai 2011). "Ewoks, sex dolls and comedy: what happened to the Star Wars cast". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 11 Mehefin 2017.
  23. Mayhew, Peter; Mayhew, Angie (19 Tachwedd 2013). My Favorite Giant. One Mans Posse Production. ISBN 978-1-62098-826-8.
  24. Goldman, Carrie (22 Ebrill 2011). "My Favorite Giant by Peter Mayhew (Chewbacca)". ChicagoNow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2017. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  25. Malone, Megan (8 Chwefror 2012). "Chewbacca Making Dallas-Area Appearances". KXAS-TV. Cyrchwyd 4 Hydref 2018.
  26. "Star Wars actor who played Chewbacca to become American citizen". 12 Hydref 2005. t. 16.
  27. "Chewbacca actor to become an American". Today. 14 Hydref 2016. Cyrchwyd 4 Hydref 2018.
  28. "'Star Wars' actor, others pledge their allegiance". Fort Worth Star-Telegram. 18 Hydref 2005. t. B2.
  29. "Wookie knee repair: 'Star Wars' actor Peter Mayhew hopes to walk again after Fort Worth surgery". The Dallas Morning News. 11 Medi 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ebrill 2014. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  30. Sacks, Ethan (19 Ionawr 2015). "'Star Wars' star Peter Mayhew hospitalized for pneumonia: report". New York Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2015. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  31. Parker, Ryan (19 Ionawr 2015). "'Star Wars' actor Peter Mayhew hospitalized with pneumonia". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ebrill 2015. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  32. Zarrell, Matt; Rothman, Michael (2 Mai 2019). "'Star Wars' actor Peter Mayhew dies at the age of 74, family says". ABC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Mai 2019.
  33. "Return of the Ewok (1982)". Rotten Tomatoes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-14. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  34. Thomas, Bob (25 Mai 1987). "Star Wars celebrates 10th anniversary today". The Palm Beach Post (yn Saesneg). tt. 4E. Cyrchwyd 3 Mai 2019 – drwy Newspapers.com.
  35. Holmes, Adam. "Chewbacca Actor Peter Mayhew Is Dead At 74". Cinema Blend. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  36. Chichizola, Corey (15 Mai 2018). "The Advice Star Wars' Peter Mayhew Gave Solo's Chewbacca". CinemaBlend. Cyrchwyd 15 Medi 2018.
  37. Saperstein, Pat; Stedman, Alex (2 Mai 2019). "Chewbacca Actor Peter Mayhew From 'Star Wars' Dies at 74". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  38. Alter, Ethan (16 Tachwedd 2018). "'The Star Wars Holiday Special' at 40: How a landmark TV bomb was born". Yahoo Entertainment (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  39. Murray, Noel (12 Chwefror 2015). "When the Muppets met Star Wars". The Dissolve. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  40. "Peter Mayhew dead at 74 after decades-long run playing Chewbacca in Star Wars films". ABC7 Chicago. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  41. Itzkoff, Dave (17 Chwefror 2011). "Remaking Wookiee: Chewbacca Becomes a Character on 'Star Wars: The Clone Wars'". ArtsBeat (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  42. Zakarin, Jordan (4 Mai 2012). "'Star Wars' Day: What are the Original Cast Members Doing Now?". The Hollywood Reporter (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.

Dolenni allanol golygu