Steffan (sant)

merthyr Cristnogol
Erthygl am y sant yw hon. Gweler hefyd Senedd y Deyrnas Unedig neu "San Steffan"

Steffan (o'r Groeg Στέφανος, Stephanos, yn golygu "coron") oedd y merthyr Cristnogol cyntaf, a fu farw tua 36 OC. Dethlir Gŵyl San Steffan ar y 26eg o Ragfyr.

Steffan
Darlun o Sant Steffan yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ganwydc. 1 Edit this on Wikidata
Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Bu farwc. 36 Edit this on Wikidata
o llabyddiad Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiacon Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl26 Rhagfyr, 27 Rhagfyr Edit this on Wikidata

Adroddir ei hanes yn Actau yr Apostolion. Un o'r saith dyn a cafodd eu penodi'n ddiaconiaid gan yr Apostolion oedd Steffan. Cafodd ei feirniadau gan y Sanhedrin yn euog o gabledd yn erbyn Moses a Duw, ac fe'i arweiniwyd tu allan i furiau'r ddinas i gael ei labyddio (lladd gyda cherrig). Ymhlith y rheiny a wyliodd y dienyddiad oedd Saul, yn hwyrach yr Apostol Paul. Yn ôl traddodiad mae ei greiriau yn eglwys San Lorenzo fuori le Mura yn Rhufain, lle y mae'n rhannu bedd gyda'r diacon Lawrens.

Sant Steffan gan Carlo Crivelli, 1476. Yma mae Steffan yn gwisgo mantell y diacon a'r cerrig a'i laddodd ar ei ben a'i ysgwyddau. Symbol merthyr yw'r palmwydd.
Sant Steffan gan Carlo Crivelli, 1476. Yma mae Steffan yn gwisgo mantell y diacon a'r cerrig a'i laddodd ar ei ben a'i ysgwyddau. Symbol merthyr yw'r palmwydd. 
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.