Yr Apostol Paul
apostol, merthyr a sant Cristnogol
(Ailgyfeiriad o Paul)
Yr Apostol Paul (neu Pawl o Tarsus neu Sant Pawl), ynghyd â Sant Pedr, oedd y cenhadwr mwyaf nodweddiadol o'r Gristnogaeth gynnar. Does dim tystiolaeth i ddangos fod Pawl wedi cyfarfod Iesu o Nasareth erioed.[1] Yn wahanol i'r Deuddeg Apostol, daeth i'r grefydd drwy weledigaeth o'r Iesu[2] a phwysleisiodd fod ei awdurdod apostolaidd wedi ei seilio ar ei weledigaeth. Roedd yn enedigol o ddinas Tarsus yn nhalaith Rufeinig Cilicia yn Asia Leiaf, ac felly fe'i gelwir yn aml yn ‘Pawl o Tarsus’. Dywedir i Pawl dderbyn y Efengyl gan ‘y datguddiad o Iesu Grist’;[3] yn ôl Actau'r Apostolion, cymerodd y tröedigaeth le tra'r roedd yn teithio ar y ffordd i Damascus.
Yr Apostol Paul | |
---|---|
Ganwyd | שאול התרסי c. 5 Tarsus |
Bu farw | c. 66 o pendoriad Rhufain |
Man preswyl | Tarsus, Jeriwsalem, Damascus, Antiochia, Salamis, Paphos, Antoch, Konya, Lystra, Derbe, Alexandria Troas, Philippi, Thessaloníci, Veria, Athen, Corinth, Effesus, Miletus, Tyrus, Acre, Caesarea Maritima, Sidon, Myra, Kaloi Limenes, Siracusa, Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, diwinydd, cenhadwr, crefyddwr, rabi, teithiwr, crefftwr |
Swydd | Apostol |
Adnabyddus am | Llythyrau Paul |
Prif ddylanwad | Gamaliel, Iesu |
Dydd gŵyl | 12 Gorffennaf, 10 Chwefror, 25 Ionawr, 18 Tachwedd |
Llythyrau Pawl yn y Testament Newydd
golygu- Llythyr Paul at y Rhufeiniaid
- Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid
- Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid
- Llythyr Paul at y Galatiaid
- Llythyr Paul at yr Effesiaid
- Llythyr Paul at y Philipiaid
- Llythyr Paul at y Colosiaid
- Llythyr Cyntaf Paul at y Thesaloniaid
- Ail Lythyr Paul at y Thesaloniaid
- Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus
- Ail Lythyr Paul at Timotheus
- Llythyr Paul at Titus
- Llythyr Paul at Philemon
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Complete Gospels, Robert J. Miller golygydd, nodiadau ar Mathew 26:48: ‘The fact that Judas needs to use a sign indicates that Jesus was not known by face in Jerusalem’. Presumably, at that time, Paul was in Jerusalem studying under the famous Pharisee Gamaliel.
- ↑ Corinthiaid 15:8–9
- ↑ Galatiaid, 1:11–12