Sterling Price
Gwleidydd a chyfreithiwr o'r Unol Daleithiau a wasanaethodd fel Llywodraethwr Missouri o 1853 hyd 1857 oedd Sterling Price (20 Medi 1809 – 29 Medi 1867). Gwasanaethodd hefyd fel brigadier general ym Myddin yr Unol Daleithiau yn y Rhyfel Mexicanaidd-Americanaidd, ac fel major general ym myddin Gydffederal y Rhyfel Cartref America.
Sterling Price | |
---|---|
Ganwyd | 20 Medi 1809 Prince Edward County |
Bu farw | 29 Medi 1867 St. Louis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Taleithiau Cydffederal America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person busnes, gwleidydd, swyddog milwrol |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Governor of Missouri, member of the Missouri House of Representatives |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
llofnod | |
Cafodd ei eni yn Swydd Prince Edward, Virginia i deulu o dras Gymreig, ym 1809. Mynychodd Goleg Hampden–Sydney ble astudiodd y gyfraith o 1826 tan 1827. Priododd Martha Head a symudodd ei deulu i Fayette, Missouri ym 1831. Cafodd ei ethol i Gyngres yr Unol Daleithiau ym 1845 ond ymddiswyddodd ym 1846 i ymladd yn y Rhyfel Mexicanaidd-Americanaidd.
Ar ddiwedd y rhyfel, yn hytrach nag ildio, aeth â'i filwyr dros y ffin i Fecsico a chynnig eu gwasanaeth i'r Ymerawdwr Maximilian, ond doedd o ddim eu hangen. Fodd bynnag, cawsant fyw yno a bu farw Price yn dlawd a disylw yn 1867 mewn mynwent yn St. Louis.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) PRICE, Sterling (1809 - 1867) Biographical Directory of the United States Congress