Steve Peat
Beiciwr mynydd lawr allt proffesiynol o Loegr ydy Steve Peat (ganwyd 17 Mehefin 1974, Chapeltown, De Swydd Efrog). Cyn dechrau ei yrfa fel beiciwr proffesiynol, roedd Peat yn blymiwr llawn amser. Mae'n briod i Adele Croxon ac mae ganddynt fab, Jake Peat.
Steve Peat | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1974 Sheffield |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon | |
Safle | downhill mountain biking |
Dechreuodd Peat ei yrfa heb fawr o lwyddiant yn nhîm Saracen ynghyd â Rob Warner, cyn symyd i dîm MBUK yng nghanol yr 1990au. Reidiodd dros GT Bicycles tuag at ddiwedd yr 1990au cyn ymuno â thîm Orange rhwng 2002 a 2005. Mae eisoes wedi ymuno â thîm Santa Cruz Syndicate ar gyfer tymor 2006, arhosodd yn y tîm ar gyfer tymor 2007 hefyd.
Mae ei lwyddianau diweddar yn cynnwys dod yn ail ym Mhencampwriaethau Beicio Mynydd Lawr Allt y Byd yn 2000, 2001 a 2002, ac ennill y Pencampwriaethau yn 2002, 2004 a 2006.
Mae Peat hefyd yn ymwneud â dylunio a cynhyrchu dillad arbennig ar gyfer reidio i gwmni Royal Racing, mae Peat yn ranol berchen ar y cwmni. Mae Peat hefyd yn ymwneud â academiau ieuenctid yn y chwaraeon ac yn cefnogwr mawr o gael plant i ymwneud â'r chwaraeon.
Cyfeiriadau
golygu- Gwefan swyddogol Steve Peat Archifwyd 2007-10-08 yn y Peiriant Wayback
- Proffil ar dewielersite.net Archifwyd 2009-09-16 yn y Peiriant Wayback