Cyn-chwaraewr criced Awstralaidd yw Stephen John Rixon (ganwyd 25 Chwefror 1954).

Steve Rixon
Ganwyd25 Chwefror 1954 Edit this on Wikidata
Albury, De Cymru Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm criced cenedlaethol Awstralia Edit this on Wikidata

Ganwyd Rixon yn Albury, De Cymru Newydd. Chwaraeodd mewn 13 Test a 6 gêm Un Dydd Rhyngwladol rhwng 1977 ac 1985. Dechreuodd chwarae ar dîm Awstralia fel ceidwad wiced ym 19771978 ar ôl i Rodney Marsh ymuno â Criced Cyfres y Byd, a collodd ei le pan ddychwelodd Marsh i'r tîm. Dychwelodd Rixon i'r tîm yn 19841985 wedi ymddeoliad Marsh ac roedd Wayne Phillips wedi ei anafu.

Ymunodd Rixon â taith gwrthryfela De Affrica ym 19851986, ond nid oedd yn gallu ail-ymuno â'r tîm cenedlaethol pan ddychwelodd.

Ers ymddeol, mae Rixon wedi bod yn hyfforddwr ar gyfer Tîm criced Seland Newydd, De Cymru Newydd, Surrey, ac yn bresennol, The Scots College, Sydney. Mae hefyd yn hyfforddi'r Hyderabad Heroes yng Nghyngrhair Criced India.

Bu adroddiadau fod ganddo ddiddordeb mewn cymryd drosodd fel hyfforddwr Tîm criced Awstralia pan fyddai'r hyfforddwr, John Buchanan yn gadael ar ôl cyfres Lludw 20062007, ond ni apwyntiwyd ef, a cymerodd Tim Nielsen y swydd.

Dolenni allanol golygu