Stigmata (unigol stigma) yw'r term a ddefnyddir mewn Cyfriniaeth Gristnogol i ddisgrifio ynddangosiad clwyfau, creithiau neu boen corfforol mewn mannau sy'n cyfateb i glwyfau Iesu Grist pan gafodd ei groeshoelio, megis y dwylo, garddyrnau a'r traed.[1] Mae unigolyn sydd â chlwyfau stigmata yn cael ei alw'n Stigmatydd neu Stigmatig.

Stigmata
Mathclwyf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Padre Pio ifanc yn dangos y stigmata.

Mae'r term yn tarddu o linell ar ddiwedd llythyr yr Apostol Paul at y Galatiaid ble mae'n dweud, "yr wyf yn dwyn nodau Iesu yn fy nghorff" (6:17). Stigmata yw lluosog y gair Groeg στίγμα stigma, sy'n golygu nod, tatŵ,[2] neu seriad fel un a fyddai wedi'i ddefnyddio i adnabod anifail neu gaethwas.

Mae stigmata yn cael eu cysylltu'n bennaf a'r ffydd Gatholig. Mae nifer o'r stigmatiaid sydd wedi'i hadnabod yn aelodau o urddau'r grefydd Gatholig.[3] Sant Ffransis o Assisi oedd y stigmatig cynharaf ar gofnod yn hanes Cristnogaeth. Dros gyfnod o hanner can mlynedd, bu Padre Pio o Pietrelcina o Urdd Brodyr Capwsin Leiaf yn adrodd stigmata a astudiwyd gan nifer o feddygon yn y 20g.

Mae canran uchel (efallai dros 80%) o stigmatiaid yn fenywod.[4] Yn ei gyfrol Stigmata: A Medieval Phenomenon in a Modern Age, mae Ted Harrison yn awgrymu nad oes un mecanwaith sy'n cynhyrchu nodau stigmata. Yr hyn sy'n bwysig, yn ôl Harrison, yw bod y nodau yn cael eu hadnabod gan eraill fel rhai sydd o arwyddocad crefyddol. Mae'r rhan fwyaf o stigmata wedi'u bwrw i lawr fel achosion o dwyll. Mae rhai adroddiadau hefyd wedi cynnwys gweledigaeth o gwpan yn cael ei gyflwyno i'r stigmatig yfed ohono neu'r teimlad o gleddyf finiog yn cael ei gyrru i mewn i'r frest.[5]

Roedd Teresa Helena Higginson a aned yn Nhreffynnon yn gyfrinydd Catholig ac un o'r adroddiadau prin o stigmata sy'n gysylltiedig â Chymru. Dywedir bod ei dwylo a'i thraed wedi gawedu drwy gydol ei hoes.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Stigmata (Christian Mysticism)". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-03.
  2. Jones, C. P. (1987). Stigma: Tattooing & Branding in Graeco-Roman Antiquity. Journal of Roman Studies 77: 139-155.
  3. Poulain, A. (1912). Mystical Stigmata. In The Catholic Encyclopedia. New York: Robert Appleton Company. Retrieved July 1, 2008 from New Advent: http://www.newadvent.org/cathen/14294b.htm
  4. Carroll, Michael P. (1989). Catholic Cults and Devotions: A Psychological Inquiry. McGill-Queen's University Press. pp. 80-84.
  5. https://books.google.com/books/about/The_stigmata_tr_from_The_Mystik_ed_by_H.html?id=8bUCAAAAQAAJ&printsec=frontcover&source=kp_read_button