Teresa Helena Higginson

cyfrinydd Catholig a aned yng Nghymru

Cyfrinydd Catholig oedd Teresa Helena Higginson (27 Mai 184415 Mawrth 1905[1]).

Teresa Helena Higginson
Ganwyd27 Mai 1844 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1905 Edit this on Wikidata
Chudleigh Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, cyfrinydd Edit this on Wikidata

Ganwyd Higginson yn Nhreffynnon yn 1844, cyn symud i Gainsborough a Neston, Lloegr.[2] Aelodau o'r Eglwys Gatholig Rufeinig oedd ei rhieni: Robert Francis Higginson oedd ei thad a Mary (neé Bowness) o Cumbria oedd ei mam. Cyfarfu ei rhieni yn Iwerddon, a phriododd y ddau yno yn Loughlyn, Roscommon yn Hydref 1841. Gan fod y fam yn feichiog, daeth y ddau i Drefynnon i eni'r plentyn. Fe'i galwyd yn Teresa ar ôl Santes Teresa o Ávila a Helena ar ôl santes o'r un enw a sefydlodd 'Groes y Gwirionedd'.

Derbyniodd Teresa ei haddysg gynnar mewn ysgol Gatholig yn Nottingham. Yn oedolyn, bu'n byw yn: Bootle, Clitheroe, Caeredin a Chudleigh yn Nyfnaint ble y bu farw.[3]

Drwy gydol ei bywyd roedd ei dwylo a'i thraed yn gwaedu, nodwedd a elwir heddiw'n stigmata.[2]

Bu farw yn Chudleigh a chafodd ei disgrifio gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig fel "Morwyn Duw".[4]

Ysgrifennwyd bywgraffiad o Teresa gan yr Arglwyddes Cecil Kerr ac fe'i cyfrifir fel y gwaith pwysicaf ar y gyfrinydd. Sylfaenwyd y bywgraffiad ar nifer o lythyrau gan Teresa ac ar dystiolaeth cynradd ychwanegol.

Cyfeiriadau golygu

Dolennau allanol golygu