Stryt y Brenin, Wrecsam

stryd yng Nghanol Wrecsam

Stryd fasnachol bwysig yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt y Brenin (Saesneg: King Street).

Stryt y Brenin
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.047847°N 2.996729°W Edit this on Wikidata
Map
Stryt y Brenin, ochr y gorllewin, tuag at y gyffordd gyda Ffordd Rhosddu

Lleoliad

golygu

Mae Stryt y Brenin yn mynd o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain gyfagos i galon ganoloesol y ddinas. Mae'r stryd yn cysylltu Stryt y Rhaglaw, y brif ffordd o'r orsaf rheilffordd Wrecsam Cyffredinol, a champws Coleg Cambria, yn union i'r gogledd o ganol y ddinas.

Credir mai Stryt y Brenin oedd y stryd breswyl gyntaf a gynlluniwyd yn ffurfiol yn y dref. [1] Sefydlwyd y stryd erbyn 1828, ac yn ôl pob sôn, fe'i henwyd ar ôl y Brenin Siôr IV, a oedd yn Dywysog Rhaglaw tan 1820. Mae llawer o'r adeiladau hanesyddol sy'n dal i sefyll ar y stryd yn dyddio o'r cyfnod Sioraidd.[1]

Codwyd y Drindod, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ar ben dwyreiniol Stryt y Brenin yn 1902[1] ac fe'i hagorwyd yn 1908.[2] Yn y 1950au codwyd gorsaf fysiau ganolog Wrecsam ar ochr ddwyreiniol y stryd. Ailddatblygwyd yr orsaf fysiau yn 2002 mewn arddull bensaernïol gyfoes iawn.[1]

Disgrifiad

golygu

Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau hanesyddol ar Stryt y Brenin yn sefyll ar ochr orllewinol y stryd, ym mhennau gogleddol-ddwyrain a deheuol-orllewin. Codwyd rhifau 55 i 67, gyferbyn â'r eglwys, fel rhes o saith siop â llety uwch eu pennau.[1]

Adeilad mwyaf ochr ddwyreiniol y stryd yw'r orsaf fysiau ganolog, a adeiladwyd mewn arddull gyfoes.

Mae Eglwys y Drindod yn sefyll ar ben dwyreiniol y stryd fel canolbwynt pwysig i olygfeydd ar hyd Stryt y Brenin a Ffordd Rhosddu, sy'n rhedeg heibio i gampws Coleg Cambria. Codwyd yr eglwys a'i chlochdwr trawiadol sy'n sefyll ar wahân gan ddefnyddio brics coch lleol Rhiwabon. Mae'r eglwys yn adeilad Rhestredig.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 27 Medi 2022.
  2. "Welcome - Trinity Presbyterian Church". Trinity Presbyterian Church. Cyrchwyd 27 Medi 2022.