Stryt y Rhaglaw, Wrecsam
Stryd fasnachol bwysig yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt y Rhaglaw (Saesneg: Regent Street).
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 53.047348°N 2.997938°W |
Lleoliad
golyguStryt y Rhaglaw yw'r brif ffordd o orsaf rheilffordd Wrecsam Cyffredinol i ganol y ddinas. Mae'r stryd yn rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain, gan ddechrau ar bwys yr orsaf ac yn parhau tuag at ganol y dref. Mae rhan olaf y stryd, rhwng y gyffordd gyda Stryt yr Allt (“Hill Street”) a Stryt y Priordy (“Priory Street”), yn ardal i gerddwyr. Mae Stryt yr Hôb yn parhau y tu hwnt i'r gyffordd hon.
Hanes
golyguGyda Stryt yr Hôb a Stryt y Syfwr, mae Stryt y Rhaglaw yn barhad i gynllun canoloesol y strydoedd o amgylch Eglwys San Silyn.[1]
Yn ôl pob tebyg, enwyd y stryd ar ôl Siôr, y Tywysog Rhaglaw, ond mae enw'r stryd yn awgrymu cysylltiad â hen dreflan Wrexham Regis. Yn y gorffennol, roedd Wrecsam yn cael ei rhannu yn Wrexham Abbot, eiddo'r Eglwys, a Wrexham Regis, eiddo'r Goron.[2] Yn y rhan hon o'r ddinas ceir enwau strydoedd eraill gyda chysylltiad â Wrexham Regis, megis Stryt y Brenin, Stryt yr Arglwydd a Stryt y Syfwr, lle y mae “syfwr” yn cyfeirio at fath o swyddog canoloesol.[3]
Disgrifiad
golyguMae'r ffordd tuag at ganol y ddinas yn mynd heibio adeiladau hanesyddol pwysig gan gynnwys:
- yr hen Wrexham Infirmary a adeiladwyd yn 1838 ar ôl darluniad gan Edward Welch, pensaer o Lerpwl[4] – Ysgol Celfyddydau Creadigol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw'r adeilad bellach;
- Eglwys Gadeiriol y Santes Fair a adeiladwyd yn 1857 ar ôl darluniad gan Edward Pugin[5];
- Amgueddfa Wrecsam, hen orsaf yr heddlu a adeiladwyd hefyd yn 1857, ar ôl darluniad gan Thomas Penson, fel barics ar gyfer Milisia Sir Ddynbych.[6]
Y tu hwnt i'r gyffordd gyda Stryt y Brenin a Ffordd Sant Marc, adeiladwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau mewn arddull modern.
O ochr ogleddol y stryd mae modd gweld adeiladau ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor, sy'n gyfagos i ganol y ddinas.[7]
Adeiladwyd rhif 35 Stryt yr Hôb / 2 Stryt y Rhaglaw, yr “Argyle Arch”, yn 1875 mewn arddull Gothig gyda brics melyn gyda mynedfa fwaog uchel i Stryt Argyle.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
- ↑ Seal, Bobby (18 Mehefin 2015). "Abbot and Regis: A Tale of Two Townships". Psychogeographic Review. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
- ↑ Palmer, Alfred Neobard (1910). A History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches. Printed for the authors. tt. p. 107.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ "Former Wrexham Infirmary, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
- ↑ "Wrexham - Catholic Bishops' Conference". The Catholic Church Bishops' Conference of England and Wales. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
- ↑ "Amdanom - Wrexham Heritage". Amgueddfa Wrecsam. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
- ↑ "Grosvenor Road Conservation Area Assessment and Management Plan" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
Oriel
golygu-
Yr hen ysbyty sydd erbyn hyn yn rhan o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam
-
Eglwys Gadeiriol y Santes Fair
-
Bwa Gothig Fictoraidd, ar y gyffordd rhwng Stryt y Rhaglaw, Stryt yr Hôb a Stryt Argyle
-
Amgueddfa Wrecsam – yr hen farics a hen orsaf yr heddlu
-
Amgueddfa Wrecsam – yr olygfa ar hyd Stryt Rhaglaw