Stryt yr Arglwydd, Wrecsam

stryd fasnachol yn Wrecsam

Stryd fasnachol yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt yr Arglwydd (“Lord Street”).

Stryt yr Arglwydd
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.047275°N 2.995641°W Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad

golygu

Mae Stryt yr Arglwydd yn cysylltu Stryt y Brenin, ger yr orsaf fysiau ganolog, a Sgwâr y Frenhines yng nghalon y ddinas.

Disgrifiad

golygu

Stryd fasnachol i gerddwyr am y rhan fwyaf yw Stryt yr Arglwydd. Rhwng Stryt y Brenin a Stryt y Dug mae'r stryd yn cael ei dominyddu gan yr orsaf fysiau ganolog.

Mae gan y stryd gymeriad modern, nodweddiadol o lawer o strydoedd fasnachol ym Mhrydain a oedd yn ail-ddatblygu ar ôl y rhyfel. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau hynach wedi diflannu erbyn hyn, ac eithrio'r hen swyddfa post, sy'n eistedd rhwng Stryr y Dug a Stryt Egerton. Adeiladwyd yr hen swyddfa post yn 1884 ar ôl darlun gan Alfred C. Baugh ac fe'i estynnwyd yn 1907 ar ôl darlun gan Walter Pott. Dymchwelwyd rhan ganolog yr adeilad ac codwyd adeilad modern yn ei lle. [1]

Mae'r tirnod mwyaf trawiadol Stryd yr Arglwydd, Cerflun Y Bwa (“The Arc Sculpture”), yn eistedd ar y gyffordd gyda Stryt Egerton. Mae'r cerflun, gafodd ei dadorchuddio yn 1996 fel cofeb o dreftadadeth diwydiannol Wrecsam, yn dangos glöwr a gweithiwr dur, a'u traed ar led ar dau fwa dur. [2] 

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Wrexham Post Office - British Post Office Buildings and Their Architects : an Illustrated Guide". Cyrchwyd 11 Hydref 2022.
  2. "Efallai eich bod yn cerdded heibio'r tirnod hwn yn Wrecsam bob dydd… ond ydych chi'n gwybod y stori tu cefn iddo?". Newyddion Cyngor Wrecsam. Mehefin 12, 2018. Cyrchwyd Hydref 11, 2022.