Cerddor Cymreig oedd Stuart Cable (19 Mai 19707 Mehefin 2010). Ef oedd drymiwr gwreiddiol y band Stereophonics rhwng 1996 a 2005. Cafodd ei fagu ym mhentref Cwmaman ger Aberdâr, ar yr un stryd a'i gyfaill, Kelly Jones sef prif leisydd a chyfansoddwr band y Stereophonics.

Stuart Cable
Ganwyd19 Mai 1970 Edit this on Wikidata
Cwmaman Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 2010 Edit this on Wikidata
o clefyd y system gastroberfeddol Edit this on Wikidata
Llwydcoed Edit this on Wikidata
Label recordioV2 Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gyfun Blaengwawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethdrymiwr Edit this on Wikidata
ArddullBritpop, roc amgen Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLed Zeppelin Edit this on Wikidata

Ei farwolaeth

golygu

Canfuwyd ei gorff yn ei gartref yn Llwydcoed ger Aberdâr am 5.30 y.b. ar 7 Mehefin 2010. Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd achos ei farwolaeth wedi cael ei benderfynu, ond nid oedd unrhyw amgylchiadau amheus. Clywodd y cwest i'w farwolaeth ei fod wedi tagu ar ei gyfog ei hun ar ddiwedd sesiwn yfed tri diwrnod, gan achosi gwenwyn alcohol.[1]

Teledu

golygu
  • Cable TV (2002)
  • Cable Connects (2005)
  • Cable Rock

Llyfryddiaeth

golygu
  • Demons and Cocktails - My Life with the Stereophonics (2009)

Gweler hefyd

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Stuart Cable ‘wedi tagu ar ei gyfog ei hun’ , Golwg360, 19 Hydref 2010. Cyrchwyd ar 24 Gorffennaf 2016.