Sue Essex
Gwleidydd o Loegr yw Susan "Sue" Essex (ganed 29 Awst 1945), a chyn-aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Sue Essex | |
---|---|
Ganwyd | 29 Awst 1945 Cromford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Y Gweinidog dros Gludiant a Chynllunio, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywgraffiad
golyguGaned Essex yn Cromford, Swydd Derby, a magwyd yn Tottenham, Llundain. Symudodd i Gymru yn 1971. Dechreuodd ei gyrfa wleidyddol fel Cynghorydd sir ar Gyngor Caerdydd, gan ddod y ddynes gyntaf i arwain y cyngor yn ddiweddarach.
Essex oedd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd o 1999 hyd 2007. Roedd hefyd yn weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu'n Weinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio o 2000 hyd 2003, a'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus o 2003 hyd 2007. Ni safodd i gael ei hail-ethol yn 2007.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Essex to stand down at elections. BBC (19 Awst 2005).
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Proffil ar wefan y BBC, Medi 1999
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd 1999 – 2007 |
Olynydd: Jonathan Morgan |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio, Llywodraeth Cymru 2000 – 2003 |
Olynydd: aildrefnwyd y swydd |
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru 2003 – 2007 |
Olynydd: aildrefnwyd y swydd |