Suharto

Arlywydd Indonesia rhwng 1967 a 1998 oedd Suharto (8 Mehefin 1921 - 27 Ionawr 2008).

Suharto
President Suharto, 1993.jpg
Ganwyd8 Mehefin 1921 Edit this on Wikidata
Kemusuk Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 2008 Edit this on Wikidata
Jakarta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIndonesia, Dutch East Indies Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddSecretary General of the Non-Aligned Movement, Arlywydd Indonesia Edit this on Wikidata
Taldra1.68 metr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolParty of Functional Groups Edit this on Wikidata
TadKertosudiro Edit this on Wikidata
MamSukirah Edit this on Wikidata
PriodTien Soeharto Edit this on Wikidata
PlantTutut Soeharto, Sigit Harjojudanto, Bambang Trihatmodjo, Siti Hediati Hariyadi, Tommy Suharto, Mamiek Soeharto Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Coler Urdd Isabella y Catholig, Grand Cross of the Order of Good Hope, Great Nile necklace, Star of the Republic of Indonesia, Bintang Mahaputera, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Order of the Chrysanthemum, Urdd Sikatuna, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd dros ryddid, Order of Merit for National Foundation, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Urdd Brenhinol y Seraffim, Order of Pahlavi, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of Mubarak the Great, Urdd y Seren Iwgoslaf, Order of the Queen of Sheba, Order of Independence (Qatar), Urdd yr Eliffant, Uwch Urdd Mugunghwa Edit this on Wikidata
Llofnod
Suharto signature.svg

Ganed ef yn Kemusuk ar ynys Jafa, i deulu o ffermwyr tlawd. Ymunodd a'r fyddin pan oedd y wlad yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd. Erbyn 1965 roedd yn gadfridog yn y fyddin. Ar 1 Hydref y flwyddyn honno lladdwyd nifer o gadfridogion pan geisiodd adran o'r fyddin oedd yn gysylltiedig â Phlaid Gomiwnyddol Indonesia gipio grym. Suharto oedd y swyddog uchaf oedd mewn sefyllfa i wrthwynebu'r ymgais, a gallodd orchfygu y gwrthryfelwyr. Ymatebodd y fyddin, dan arweiniad Suharto, trwy ladd miloedd lawer o gomiwnyddion ac eraill y dywedid eu bod mewn cydymdeimlad â hwy. Credir i rhwng 500,000 a miliwn o bobl gael eu lladd. Wedi hyn, Suharto mewn gwirionedd oedd yn llywodraethu Indonesia, ac nid yr arlywydd Sukarno.

Cafodd ei enwi yn arlywydd dros dro yn 1967, ac ar 21 Mawrth 1968 daeth yn swyddogol yn ail arlywydd Indonesia. Dan ei arlywyddiaeth ef, cafodd y wlad gyfnod o dŵf economaidd, ond bu cwynion am ddiffyg parch i hawliau dynol, llygredd a diffyg democratiaeth. Wedi cyfnod o derfysg ar y strydoedd, ymddiswyddodd ar 21 Mai 1998.

Roedd yn briod a Siti Hartina ("Tien"), ac roedd ganddynt chwech o blant.

Bywyd cynnarGolygu

Ganed Suharto ar 8 Mehefin 1921 i deulu Mwslimaidd duwiol yn Kemusu, Yogjakarta, yng nghanolbarth ynys Jafa, a oedd ar y pryd dan reolaeth India'r Iseldiroedd. Cafodd blentyndod hynod o dlawd. Gweithiodd yn glerc mewn banc cyn ymuno â Byddin Frenhinol India'r Iseldiroedd a chael ei hyfforddi yn academi filwrol Gombong. Yn sgil gorchfygiad India'r Iseldiroedd gan Ymerodraeth Japan ym 1942, ymunodd Suharto â'r milisia lleol a sefydlwyd gan y Japaneaid, a chafodd ei hyfforddi'n swyddog. Gwasanaethodd yn ninasoedd Sireibu a Jogjakarta, Jafa, cyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.[1]

Wedi i Japan ildio i'r Cynghreiriaid yn Awst 1945, datganwyd annibyniaeth Indonesia gan Sukarno, ac ymunodd Suharto â'r ymgyrch i atal yr Iseldirwyr rhag ail-orchfygu'r wlad. Gwasanaethodd Suharto yn swyddog yn ystod pedair mlynedd o ryfela herwfilwrol rhwng y cenedlaetholwyr Indonesaidd ac Ymerodraeth yr Iseldiroedd. Er na chollodd yr Iseldirwyr y frwydr ar faes y gad, gorfodwyd iddynt ildio a chydnabod annibyniaeth Indonesia o ganlyniad i bwysau gan Unol Daleithiau America a gwledydd eraill. Ar 15 Awst 1950, pedair blynedd yn union wedi ildiad Japan, sefydlwyd gweriniaeth annibynnol Indonesia, dan arweiniad yr Arlywydd Sukarno. Arweiniodd Suharto ymgyrchoedd i ranbarthau a oedd yn gwrthod y drefn newydd, gan atgyfnerthu felly awdurdod a thiriogaeth y wlad. O ganlyniad i'w lwyddiant fel cadfridog fe'i gwobrwywyd gyda thaith i lysgenadaethau Indonesia yn Ewrop.[1]

Ym 1963 creodd Suharto gyrchlu symudol, wedi i Sukarno ei orchymyn i ddwyn gudd-gyrchoedd herwfilwrol ar y ffin â Maleisia. Yn ystod ymgais y comiwnyddion i gipio grym yn Hydref 1965, llwyddodd Suharto i osgoi gael ei ladd, ffawd a ddarfu i sawl cadfridog arall. Galwodd ei gyrchlu a lansiodd cyrchoedd ar y brifddinas i ostegu'r gwrthryfel. Yn y misoedd i ddod, aeth Suharto ati i ddisodli Sukarno ac i garthu comiwnyddion ar draws y wlad.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Obituary: General Suharto", The Daily Telegraph (27 Ionawr 2008). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Mehefin 2021.
Rhagflaenydd :
Sukarno
Arlywyddion Indonesia
Suharto
Olynydd :
Bacharuddin Jusuf Habibie