Sul y Mamau yn Greenham

Cerdd Gymraeg gan Menna Elfyn yw "Sul y Mamau yn Greenham". Ceir bortread hynod realistig o fywyd ansefydlog y merched â fu'n gwersylla tu allan i safle arfau niwclear yng Nghomin Greenham mewn protest heddychlon. Gwelir themau heddwch, Cristnogaeth ac anghyfiawnder drwy gydol y gerdd.

Cerdd ar ffurf rhydd yw hi.

Menna Elfyn

golygu

Pryderon am yr amgylchedd, Cymru a chrefydd sydd yn lliwio cerddi Menna Elfyn.

Mae Sul y Mamau yn Greenham yn canolbwyntio ar ei phryder ynghylch cadwraeth arfau niwclear. Roedd Menna Elfyn yn rhan o'r brotest heddychlon i ddiddymu cadwraeth arfau niwclear yng Nghomin Greenham. Profodd amgylchiadau anodd y gwersyll â wynebodd y merched gan y :"dynion glas a gwyrdd"

Iaith ac arddull

golygu

Ar y naill llaw, ofna Menna Elfyn na fydd pen draw i Brotest Comin Greenham a caiff hyn ei bortreadu wrth iddi bendillio rhwng gobaith ac anobaith.