Menywod Greenham Common

(Ailgyfeiriad o Protest Comin Greenham)

Protest enwog iawn oedd Protest Comin Greenham a gychwynnodd wrth i 40 o ferched orymdeithio i safle RAF Comin Greenham, yn Berkshire i annog diddymu arfau niwclear.

Menywod Greenham Common
Enghraifft o'r canlynolGwersyll Heddwch Edit this on Wikidata
DechreuwydMai 1982 Edit this on Wikidata
Daeth i ben2000 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym mis Medi 1981, cerddodd 36 o fenywod o Gymru i Wersyllfa Filwrol Greenham Common, yn Wiltshire yn Ne Lloegr, er mwyn protestio penderfyniad y llywodraeth i gadw taflegrau niwclear Cruise yno.[1]

Cadwynodd y menywod, oedd yn galw eu hunain yn ‘Women for Life on Earth’,  eu hunain i ffens Greenham Common, a sefydlu gwersyll heddwch yno. Ym mis Mai 1982, protestiodd 250 o fenywod trwy ffurfio blocâd, ac arestiwyd 34 ohonynt.[2]

Ar y 1af o Ebrill 1983, ffurfiodd 70,000 o brotestwyr gadwyn ddynol 14 milltir o hyd – o Greenham i Aldermaston a ffatri ordinans Bughfield. Cafodd y brotest hon lawer o sylw yn y cyfryngau, ac o ganlyniad sefydlwyd dros 12 o wersylloedd heddwch eraill yng ngweddill Prydain ac Ewrop.[3]

Yn mis Rhagfyr 1983, amgylchynodd 50,000 o brotestwyr Greenham Common, a thorrwyd darnau o’r ffens yn y brotest. Cafodd cannoedd o brotestwyr eu harestio.[4]

Roedd y gwersyll yn cynnwys naw gwersyll llai, gan gynnwys y Gât Felen, y Gât Las, a’r Gât Fioled.

Yn 1991 gadawodd yr arfau niwclear olaf Greenham Common, ond ni adawodd y gwersyllwyr olaf tan 2000, pan osodwyd cofeb i’r gwersyll heddwch yno.[5]

Ar 12 Rhagfyr 1982, daliodd 30,000 o ferched ddwylo'i gilydd o gwmpas ffens 6 milltir y gwersyll milwrol, mewn protest yn erbyn y ffaith fod Llywodraeth Lloegr yn caniatáu i fyddin U.D.A. fod yno, gydag arfau niwclear.


Y Daith

golygu

Safle yn Wiltshire yn ne Lloegr yw Greenham Common. Mae'n gartref i wersyllfa filwrol a ddefnyddiwyd yn yr 1980au ar gyfer cadw taflegrau Cruise. Ar y 27ain o Awst 1981 cychwynnodd 40 o ferched ar eu taith o Gaerdydd i safle RAF Comin Greenham, yn Berkshire. Yr hyn na wyddent wrth gychwyn eu taith oedd y byddent yn gwersylla ar y safle am 19 mlynedd wrth geisio gwaredu ar yr arf niweidiol. Yn wreiddiol, protest gymysg ydoedd, fodd bynnag, ym mis Chwefror 1982, fe benderfynwyd mai protest i ferched yn unig ydoedd. Yn arwyddocaol iawn, drwy wahardd y dynion rhag cymryd rhan yn y brotest daeth presenoldeb y merched yn ymyrraeth clir i'r heddlu a'r milwyr ar y safle.

Am flynyddoedd cynhelid protestiadau mawr y tu allan i'r wersyllfa gan ferched a wrthwynebai bolisi niwclear llywodraethau Prydain a'r Unol Daleithiau, dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher a Ronald Reagan. Cychwynnwyd y protestiadau gan griw o ferched o ardal Caerdydd.

 
Y byncars ar Greenham Common heddiw.


     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Guardian. "How the Greenham Common protest changed lives: 'We danced on top of the nuclear silos'". The Guardian. Cyrchwyd 2018-03-22.
  2. Kidron, Beeban. "The women of Greenham Common taught a generation how to protest". Guardian. Cyrchwyd 2018-03-22.
  3. Pells, Rachael. "Greenham Common peace camp: Remembering one of history's most famous feminist protests 35 years on". Independent. Cyrchwyd 2018-03-22.
  4. BBC News. "The many faces of Greenham Common". BBC News. Cyrchwyd 2018-03-22.
  5. Lois, Efa. "Menywod Greenham Commons". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 2018-03-22.