Menna Elfyn
bardd Cymreig
Bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Cymreig yw Menna Elfyn (ganwyd 1 Ionawr 1951). Ysgrifenna am yr iaith Gymraeg a hunaniaeth y genedl. Mae hi wedi cyhoeddi deg cyfrol o farddoniaeth a thros dwsin o lyfrau i blant a blodeugerddi. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu wyth drama lwyfan, chwech drama radio ar gyfer y BBC, dwy ddrama ar gyfer y teledu yn ogystal ag ysgrifennu rhaglenni dogfen ar gyfer y teledu. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith, gan gynnwys gwobr gan Gyngor y Celfyddydau am ysgrifennu llyfr o'r enw Sleep.
Menna Elfyn | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1951 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor, dramodydd, academydd |
Cyflogwr | |
Plant | Fflur Dafydd |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Gwefan | https://mennaelfyn.co.uk/ |
Mam y gantores a'r awdures Fflur Dafydd yw hi.
Llyfryddiaeth
golyguGweithiau cyhoeddedig
golygu- Mwyara (Gwasg Gomer, 1976)
- Stafelloedd Aros (Gwasg Gomer, 1978)
- Tro’r Haul Arno (Gwasg Gomer, 1981)
- Mynd Lawr i’r Nefoedd (Gwasg Gomer, 1985)
- (gol.) Hel Dail Gwyrdd (Gwasg Gomer, 1985)
- Aderyn Bach Mewn Llaw (Gwasg Gomer, 1990)
- (gol.) O'r Iawn Ryw (Honno, 1992)
- Eucalyptus (Gwasg Gomer, 1995)
- Cell Angel (Bloodaxe Books, 1996)
- Madfall ar y Mur (Gwasg Gomer, 1998)
- Cusan Dyn Dall/ Blind Man’s Kiss (Bloodaxe Books, 2001)
- Rana Rebel (Gwasg Gomer, 2002)
- Caneri Pinc ar Dywod Euraid (Hughes, 2003)
- Perffaith Nam (Gwasg Gomer, 2005)
- Perfect Blemish / Perffaith Nam (Bloodaxe Books. 2007)
- Er Dy Fod (Gwasg Gomer 2007)
- Merch Perygl (Gwasg Gomer, 2011)
- Murmur (Bloodaxe Books, 2012)
- (gydag eraill) Y Pussaka Hud (Gwasg y Bwthyn, 2012)
- Y Fenwy Ddaeth o'r Môr (cyfieithiad Henrik Ibsen, Fruen fra havet) (Gwasg Gomer, 2015)
- Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips (Gwasg Gomer, 2016)
- Bondo (Bloodaxe Books, 2017)
- Cennad (Cyhoeddiadau Barddas, 2018)
Gweithiau eraill
golygu- Red Lady of Paviland Prosiect gyda'r cyfansoddwr Andrew Powell, Cyfarwyddwr Cerddorol Craig Roberts a Band Tref Burry Port. Y canolbwynt fydd gwaith newydd Menna a Andrew 'Y Dyn Unig'.
Gwobrau
golygu- Gwobr Flaenllaw am ei chyfrol o farddoniaeth (Stafelloedd Aros), Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam. (1977)
- Aelod o'r Orsedd am ei chyfraniad i Lenyddiaeth Cymru. (1995)
- Bardd Plant Cymru (2002)
- Creative Wales Award (2008)
- Anima Istranza Foreign Prize for Poetry (2009)
- Gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru am Aderyn Bach mewn Llaw
- Ar restr hir Llyfr y Flwyddyn, Cusan Dyn Dall/ Blind Man's Kiss
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Menna Elfyn Archifwyd 2010-11-03 yn y Peiriant Wayback
- Proffil Menna Elfyn o BBC Wales
- Proffil Menna Elfyn gan y Cyngor Prydeinig
- Proffil Menna Elfyn Archifwyd 2011-07-20 yn y Peiriant Wayback wrth Bloodaxe Books