Sulien

Esgob Tyddewi
Gweler hefyd Sulien (sant) (a adnabyddir hefyd fel Silian).

Roedd Sulien (c. 1010 - 1091) yn ysgolhaig Cymreig ac yn Esgob Tyddewi.

Sulien
Ganwyd1011, 1012 Edit this on Wikidata
Llanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw1091 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad, Esgob Tyddewi, person dysgedig Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
PlantRhygyfarch ap Sulien Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Sulien, sy'n gysylltiedig yn bennaf a chlas Llanbadarn Fawr, yn enwog am ei ysgolheictod. Bu ganddo bedwar mab, sef Rhygyfarch, Daniel, Ieuan ac Arthan, a pharhawyd traddodiad Llanbadarn o ysgolheictod ganddynt hwy a chan ei meibion hwythau.

Mae'r wybodaeth am Sulien yn dod o gerdd Ladin a ysgrifennodd ei fab Ieuan iddo. Dywed fod Sulien o dras bonheddig, a'i fod wedi treulio tair blynedd ar ddeg yn astudio yn Iwerddon. Bu'n Esgob Tyddewi ddwywaith, o 1073 hyd 1078 ac yna o 1080 hyd 1085. Mae'n ymddangos fod y pentref Tresillian yng Nghernyw wedi'i enwi ar ei ôl, neu ar ôl y sant o'r un enw.

Cyfeiriadau golygu