Agor y brif ddewislen

Llanbadarn Fawr

pentref yng Ngheredigion

Pentref ar gyrion tref Aberystwyth yw Llanbadarn Fawr.

Llanbadarn Fawr
Llanbadarn Fawr Parish Church.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Sulien Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.408°N 4.06°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000372 Edit this on Wikidata
Cod OS SN599808 Edit this on Wikidata
Cod post SY23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)
Am y gymuned ym Mhowys, gweler Llanbadarn Fawr, Powys.

Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Padarn, yn un nodedig. Roedd y clas yma yn ystod y Canol Oesoedd cynnar yn enwog am ei ddysg dan Sulien (c. 1010 - 1091) a'i fab Rhygyfarch ap Sulien. Roedd y clas yn parhau mewn bodolaeth pan ymwelodd Gerallt Gymro a Llanbadarn ar ei daith trwy Gymru yn 1188, er ei fod yn dirywio erbyn hynny. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn 1257 yn dilyn tân, ac mae cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod wedyn. Bu Dafydd ap Gwilym yn byw yn y pentref ac mae yna gerdd amdano'i hun yn eglwys Llanbadarn, yn canolbwyntio ar y merched yn y gynulleidfa yn hytrach na'r gwasanaeth. Gwelodd y pentref ddatblygu mawr yn ystod y 90au, gyda archfarchnad Safeway(nawr Morrisons) a siopau eraill yn cael ei hadeiladu ar dir fferm Parc yr Afon.

Un rhan bychan o Lanbadarn Fawr yw Pwllhobi sef y llecyn o gwmpas y garej a argraffdy Cambrian Printers.

Mae gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gampws yma, yn cynnwys yr adran gwyddor gwybodaeth (Coleg Llyfrgellwyr Cymru gynt) a'r Sefydliad Astudiaethau Gwledig (Coleg Amaethyddiaeth Cymru gynt). Mae dwy dafarn yn y pentref, y Llew Du a'r Gogerddan Arms. Yma hefyd y lleolir caeau chwaraeon Prifysgol Aberystwyth (Prifysgol Cymru, Aberystwyth tan 2007) ar gaeau Blaendolau.

Mae Llanbadarn Fawr hefyd yn gweithredu fel cyngor cymuned o'r un enw, sydd arwahân i Gyngor Tref Aberystwyth.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]


Cludiant CyhoeddusGolygu

 
Cyrhaedda trên yng ngorsaf Llanbadarn Fawr

Yn ystod tymhorau'r gwanwyn, hydref a haf, darperir gwasanaethau trênau gan Reilffordd Dyffryn Rheidol i Bontarfynach, Capel Bangor a Aberystwyth. Gellir gofyn i stopio'r trên yn y pentref, on nid yw hyn yn digwydd yn aml. Mae'r rheilffordd hon yn gorwedd ger y rheilffordd o Aberystwyth i Fachynlleth ac Amwythig.

Mae llawer o wasanaethau bysus yn Llanbadarn Fawr gan gynnwys 501 o Aberystwyth i Barc y Llyn sydd yn dod bob ugain munud.

Eglwys Sant PadarnGolygu

Mae eglwys Sant Padarn yn dyddio i'r 13g gyda'r gangell o'r 15g. Fe'i hadnewyddwyd yn 1868-84 gan J.P. Seddon.

Capel SoarGolygu

Lleolir Capel Soar enwad Yr Annibynwyr ar Riw Briallu sy'n arwain allan o'r pentref i'r gogledd am Benrhyn-coch a Chommins Coch.

Dwy Groes GeltaiddGolygu

Ceir dwy Groes Geltaidd mewn amgueddfa fechan a gynlluniwyd gan Peter Lord - a symudwyd yma o du allan yr eglwys yn 1916.

ChwaraeonGolygu

Cynrychiolir y pentref gan glwb pêl-droed Padarn United sydd â thîm cyntaf a thîm wrth gefn ac yn cystadlu yng Nghynghrair Aberystwyth, cynghrair lleol gogledd Ceredigion a gogledd o'r Afon Dyfi. Mae'r clwb yn chwarae ar gae pwrpasol ar feysydd Blaendolau. Defnyddir Tafarn y Gogerddan Arms fel eu tŷ clwb.

Dolen allanolGolygu

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbadarn Fawr (pob oed) (701)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbadarn Fawr) (74)
  
10.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbadarn Fawr) (334)
  
47.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbadarn Fawr) (110)
  
35.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.