Rhygyfarch ap Sulien
Roedd Rhygyfarch ap Sulien (1056? - 1099) (weithiau Ricemarchus neu Ricemarch; weithiau Rhigyfarch mewn ffynonellau Saesneg) yn ysgolhaig ac yn Esgob Tyddewi.
Rhygyfarch ap Sulien | |
---|---|
Ganwyd | 1057 Tyddewi |
Bu farw | 1099 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad, cofiannydd |
Tad | Sulien |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn fab i Sulien, a oedd hefyd yn ysgolhaig nodedig, yn Esgob Tyddewi ac yn gysylltiedig â chlas Llanbadarn Fawr. Roedd yn frawd i Ieuan ap Sulien.[1]
Ysgrifennodd Rhygyfarch y llawysgrif Ladin "Sallwyr Rhygyfarch", sy'n cynnwys cyfieithiad o'r Sallwyr Hebraeg a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Lluniwyd y llawysgrif yn Llanbadarn Fawr tua'r flwyddyn 1079; gwnaethpwyd y llythrennau lliw gan ei frawd Ieuan. Cedwir y llawysgrif yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn.[1]
Cyfansoddodd gerdd arall yn galaru oherwydd anrheithiau'r Normaniaid yng Ngheredigion. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidis (Buchedd Dewi), a gyfansoddwyd tua'r flwyddyn 1094 i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Dilynodd ei dad fel Esgob Tyddewi yn 1088.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- D. Simon Evans, Buched Dewi (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.