Bardd Ffrengig yn yr iaith Ffrangeg oedd Sully Prudhomme (René-François-Armand Prudhomme; 16 Mawrth 18397 Medi 1907) sy'n nodedig fel un o'r Parnasiaid. Derbyniodd y Wobr Lenyddol Nobel gyntaf ac hynny yn 1901 "i gydnabod ei gyfansoddiadau mydryddol, sy'n amlygu delfrydiaeth aruchel, perffeithrwydd crefftus a chyfuniad eithriadol o briodweddau'r galon a'r meddwl".[1]

Sully Prudhomme
FfugenwSully Prudhomme Edit this on Wikidata
GanwydRené Francois Armand Prudhomme Edit this on Wikidata
16 Mawrth 1839 Edit this on Wikidata
10fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Bu farw7 Medi 1907 Edit this on Wikidata
Châtenay-Malabry Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Condorcet Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, awdur ysgrifau, dyddiadurwr, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddseat 24 of the Académie française Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Vitet Prize, Commandeur de la Légion d'honneur‎, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd ym Mharis ac astudiodd wyddoniaeth yn yr ysgol. Bu'n rhaid iddo rhoi'r gorau i yrfa wyddonol oherwydd afiechyd ei lygaid. Gweithiodd yn glerc mewn swyddfa ffatri cyn iddo gychwyn ar addysg yn y gyfraith yn 1860. Mae ei gasgliadau cynnar – Stances et poemes (1865), Les Épreuves (1866), a Les Solitudes (1869) – yn cynnwys cerddi rhwydd, gordeimladwy sy'n mynegi ei bruddglwyf wedi carwriaeth drist.

Yn y 1870au trodd Prudhomme ei gefn ar delynegiaeth sentimental a mabwysiadodd dulliau'r Parnasiaid, gyda phwyslais ar ffurf safonol, ceinder iaith, a chysyniadau athronyddol yn ei farddoniaeth, er enghraifft yn ei gyfrol La Justice (1878). Cesglir rhai o'i farddoniaeth Barnasaidd nodweddiadol yn Le Bonheur (1888), gwaith sy'n ymwneud â'r chwilfa Ffawstaidd am serch a gwybodaeth. Fe'i etholwyd yn aelod o'r Académie française yn 1881.

Gallai ei farddoniaeth ddiweddarach fod yn dywyll ac yn naïf yn ei hymdriniaeth â themâu athroniaeth ar fydr. Dioddefodd Prudhomme o afiechyd ar ddiwedd ei oes, a bu'n byw ar ben ei hun yn Châtenay-Malabry, Paris. Bu farw yno yn 68 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1901", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 8 Medi 2019.
  2. (Saesneg) Sully Prudhomme. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2019.