Académie française
Sefydliad dysgedig digymar yw'r Académie française ("Academi Ffrengig"), sy'n ymwneud ag unrhyw beth i'w wneud â'r iaith Ffrangeg. Sefyldwyd yr Académie yn swyddogol ym 1635 gan Cardinal Richelieu, prif weinidog i'r Brenin Louis XIII. Atalwyd ef ym 1793 yn ystod y Chwyldro Ffrengig, ac ail-sefydlwyd ym 1803 gan Napoleon Bonaparte (mae'r Académie yn cysidro y cawsont eu gohurio, nid eu hatal, yn ystod y chwyldro. Hon yw'r hynaf o bum académie yr Institut de France.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas ddysgedig, academi cenedlaethol, rheoleiddiwr iaith ![]() |
---|---|
Rhan o | Institut de France ![]() |
Iaith | Ffrangeg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 29 Ionawr 1635 ![]() |
Sylfaenydd | Armand-Jean du Plessis, duc de Richelieu ![]() |
Ffurf gyfreithiol | national public establishment of an administrative nature ![]() |
Pencadlys | Paris ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://www.academie-francaise.fr ![]() |
![]() |

Mae'r Académie yn cynnwys pedwar deg aelod, a adnabyddir fel immortels (anfarwolion). Etholir aelodau newydd gan aelodau'r Académie ei hun. Mae'r Académicians yn dal eu swydda am gydol eu hoes, ond gallent gael eu diddymu am gamymddwyn. Mae'r corff yn gyfrifol am weithredu fel y prif awdurdod ar gyfer yr iaith; a chyhoeddi geiriadur swyddogol ohoni. Ond, mae eu rheolau'n anghymellion yn unig ac nid ydynt yn cael eu gorfodi ar y cyhoedd na'r llywodraeth.
Un o brif gyfrifoldebau'r Academi yw cyhoeddi'r geiriadur mawr safonol y Dictionnaire de l'Académie française.
Aelodau presennol golygu
Rhestrir aelodau'r Académie française yn ôl rhifau eu sedd:
- Nodiadau
Ffynonellau golygu
- Vincent, Leon H. (1901). The French Academy. Boston: Houghton Mifflin.
Dolenni allanol golygu
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) L'Académie française Archifwyd 2001-04-19 yn y Peiriant Wayback., Scholarly Societies.
- (Saesneg) The French Academy, Jean le Bars, The Catholic Encyclopedia Cyfrol I, Efrog Newydd: Robert Appleton Company, 1907.