Sustrans
Elusen ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy ym Mhrydain ydy Sustrans. Daw'r enw o'r Saesneg am drafnidiaeth gynaliadwy sef sustainable transport. Caiff ei hariannu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys rhoddion gan gefnogwyr, y Loteri Genedlaethol ac amryw o lywodraethau.
Sustrans sy'n gyfrifol am greu'r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol.