Swci Boscawen
Cantores Gymreig yw Swci Boscawen. Ei henw iawn yw Mared Lenny.
Llwyddodd y gantores o Gaerfyrddin i ffurfio band o gerddorion a chynhyrchwyr profiadol o'i hamgylch gan gynnwys David Wrench, Twm Champagne, Gruff Meredith, Mike Richardson, Jinx Chef Kwan a Huw Owen.
Cyn cychwyn perfformio fel Swci Boscawen roedd y gantores eisoes wedi bod yn rhan o'r sîn roc Gymraeg ers blynyddoedd wedi iddi gychwyn yn 12 oed yn rhan o'r band pync Doli.
Rhyddhawyd dwy sengl ac un albwm gan Swci o dan label Rasp. Cynhyrchwyd y tri gan David Wrench a Gruff Meredith (MC Mabon).
Yn 2007 enillodd Mared 'artist benywaidd y flwyddyn' yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru.
Disgyddiaeth
golyguAlbymau
golygu- Couture C'Ching (2007)
Senglau
golygu- Swci Boscawen (2005)
- Min Nos Monterey (2006)
- Eira Gwyn (2008)
- Super (2010)