Swdocw
Pos sy'n seiliedig ar resymeg yw Swdocw (neu weithiau Sŵdocw) (Siapaneg: sūdoku). Y bwriad yw i lenwi grid, 9x9 sgwâr, fel bod pob colofn a phob rhes a phob un o'r naw bocs 3×3 (gelwir nhw hefyd yn flociau neu'n ardaloedd) yn cynnwys y rhifau o 1 i 9 ddim ond un waith ym mhob un. Mae'r person sy'n gosod y pos yn rhoi grid sydd â ond ychydig o'r rhifau wedi eu cwblhau.
Delwedd:Sudoku Puzzle by L2G-20050714 standardized layout.svg, Samurai-sudoku.png | |
Enghraifft o'r canlynol | pos rhesymegol, chwaraeon y meddwl, pos, difyrwaith |
---|---|
Math | pos, chwaraeon y meddwl |
Dyddiad cyhoeddi | 1979 |
Genre | gêm fideo posau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae posau swdocw sydd wedi eu cwblhau fel arfer yn fath o Sgwâr Lladin gyda rheolau ychwanegol ynglŷn â chynnwys yr ardaloedd o'i fewn. Yn aml, dywedir yn anghywir i'r bos darddu o Leonhard Euler, yn seiliedig ar ei waith ef gyda sgwariau Lladin.[1]
Dyfeiswyd y bos gyfoes gan bensaer Americanaidd, Howard Garns, ym 1979 a gyhoeddwyd gan Dell Magazines dan yr enw "Number Place".[2] Daeth yn boblogaidd yn Siapan ym 1986, wedi iddo gael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Nikoli dan yr enw Sudoku, gan olygu rhif unigol.[3] Daeth yn boblogaidd yn ryngwladol yn 2005.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Leonhard Euler. On magic squares.
- ↑ Sudoku Variations.
- ↑ Brian Hayes (2006). Unwed Numbers, 1, American Scientist, tud. t. 12-15