Un o arglwyddiaethau'r Mers yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn cael ei gweinyddu o Gastell y Waun, oedd Swydd y Waun (Saesneg: Chirkland). Cafodd ei chreu o'r rhannau o Bowys Fadog a roddwyd i Roger Mortimer yn 1282.

Swydd y Waun
Math o gyfrwngarglwyddiaeth y Mers Edit this on Wikidata
Daeth i ben1530s Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1282 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd yr arglwyddiaeth yn cynnwys cymydau Mochnant Is Rhaeadr, Cynllaith (bro Owain Glyndŵr), a Nanheudwy. I'r gogledd gorweddai arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl (crëwyd 1282-3). Gorweddai mynyddoedd Y Berwyn yn rhan orllewinol y swydd. Cyfrifid ei bod yn werth tua £500 y flwyddyn.[1]

Parhaodd Swydd y Waun i gael ei rheoli fel uned ar wahân yng Nghymru hyd ddechrau'r 1540au pan pasiwyd y Deddfau Uno gan Senedd Lloegr. Ar ôl hynny, daeth Swydd y Waun yn hwndred Y Waun fel rhan o'r Sir Ddinbych newydd (creuwyd 1536).

Llyfryddiaeth

golygu
  • The Extent of Chirkland (1391-3), gol. G.P. Jones (Lerpwl, 1933). Yr arolwg gwladol neu 'stent' o werth adnoddau'r arglwyddiaeth.

Cyfeiriadau

golygu
  1. R. R. Davies, Conquest, coexistence and change (Rhydychen, 1987), tud. 468.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.