Brwmffild a Iâl
Arglwyddiaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Brwmffild a Iâl (Saesneg: Bromfield and Yale).
Enghraifft o'r canlynol | arglwyddiaeth y Mers |
---|---|
Daeth i ben | 1536 |
Dechrau/Sefydlu | 1283 |
Olynydd | Sir Ddinbych |
Gwladwriaeth | Cymru |
Rhanbarth | Cymru |
Ar ôl cwymp Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, cafodd cantref Iâl a Maelor Gymraeg, a fu'n rhan o dywysogaeth Powys Fadog, eu huno i ffurfio arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. Fe'i rhoddwyd gan Edward I o Loegr i John Warrene, Iarll Surrey, un o arglwyddi Eingl-Normanaidd y Mers. Cododd yr Iarll Warrene gastell newydd yn Holt i gymryd lle Castell Dinas Brân, a gafodd ei led-ddinistrio yn ystod y rhyfel, fel canolfan i'r arglwyddiaeth. Dywedir fod rhai o'i denantiaid Cymreig wedi llosgi castell yr Iarll yng "Nglyn" (lleoliad ansicr: Erddig, efallai) ac felly roedd rhesymau ymarferol ganddo i sefydlu ei bencadlys yn nes at y ffin â Lloegr yn 1311.
Rhwng 1318-22 roedd ym meddiant Thomas o Gaerhirfryn. Aeth yr arglwyddiaeth i deulu Fitzalan trwy briodas yn 1347 ac i deulu Mowbray yn 1413, ar ddiwedd gwrthryfel Owain Glyndŵr. Daeth i ddwylo Syr William Stanley yn 1483 ond cafodd hwnnw ei ddifreintio o'i diroedd yn 1495 a phasiodd Brwmffild a Iâl i ddwylo Coron Lloegr.
Daeth yn rhan o'r Sir Ddinbych newydd yn 1536. O blasdy Plas yn Iâl roedd teulu Yale yn arglwyddiaethu ar gymdeithas y fro; un o'r teulu hwnnw oedd Elihu Yale, y cymwynaswr addysg yr enwir Prifysgol Yale yn UDA ar ei ôl. Heddiw mae bro Iâl yn rhan o Sir Ddinbych eto ar ôl cyfnod yn sir Clwyd. Gorwedd Brwmffild (Maelor Gymraeg) ym mwrdeistref sirol Wrecsam.
Cyfeiriadau
golygu- David Cathcart King, 'The Stone Castles', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991)
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1992)
Llyfryddiaeth
golygu- The First Extent of Bromfield and Yale A.D. 1315, gol. T. P. Ellis (Cymmrodorion Record Series, 1924). Arolwg neu 'stent' o'r arglwyddiaeth gan y Goron yn 1315.