Swyddfa Bost Gyffredinol
Sefydlwyd y Swyddfa Bost Gyffredinol, neu'r SBG (Saesneg: General Post Office neu GPO), yn swyddogol yn Lloegr yn 1660 gan Siarl II a tyfodd i gynnwys swyddogaethau cludiant post a telathrebu y wlad. Sefydlwyd Swyddfeydd Post Gyffredinol tebyg ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig. Diddymwyd yr SBG yn 1969 a trosglwyddwyd yr asedau i'r sefydliad newydd, Corfforaeth Swyddfa Bost (Saesneg: Post Office Corporation), gan ei newid o fod yn Adran Wladol i gorfforaeth statudol. Rhanwyd y sefydliad yn 1981, i greu dwy gorfforaeth arhwahan, sef y Swyddfa Bost a British Telecommunications. Gweler y Post Brenhinol a Swyddfa Bost Cyf am hanes mwy diweddar y system bost yn y Deyrnas Unedig.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Daeth i ben | 1969 |
Dechrau/Sefydlu | 1660 |
Olynwyd gan | Swyddfa'r Post |
Isgwmni/au | GPO Film Unit |