Y Post Brenhinol (Gaeleg yr Alban: a' Phuist Rìoghail; Saesneg: The Royal Mail) yw'r gwasanaeth post gwladol ar gyfer y Deyrnas Unedig a sefydlwyd yn 1516. Ar un adeg roedd gan y Post Brenhinol fonopoli yn y DU, ond bellach mae'n gorfod cystadlu mewn rhai meysydd â sawl gwasanaeth post arall. Hyd at yn ddiweddar y Post Brenhinol oedd berchen busnesau'r swyddfeydd post, ond cawsant eu dad-genedlaetholi. Bu'r Swyddfa Bost yn symbol o'r sefydliad ('swyddogol') Seisnig yng Nghymru yn ystod y 1960au a'r 70au gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith, a welwyd yn meddiannu'r swyddfeydd lleol mewn sawl tref yng Nghymru er mwyn hawlio dogfennau a ffurflenni Cymraeg.

Post Brenhinol
Enghraifft o'r canlynolbusnes, gwasanaeth post, menter, cwmni preifat Edit this on Wikidata
Rhan oFTSE 100 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2001 Edit this on Wikidata
PerchennogSchroders, Royal Mail Share Incentive Plan, Vesa Equity Investment Edit this on Wikidata
Prif weithredwrRico Back Edit this on Wikidata
SylfaenyddHarri VIII Edit this on Wikidata
Isgwmni/auParcelforce, General Logistics Systems, Ecourier Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadInternational Distributions Services Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni preifat Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.royalmail.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Blwch llythyrau Fictoraidd yng Nghaergrawnt

Un o is-grwpiau'r cwmni yw Royal Mail Group Limited, sy'n gyfrifol am ddosbarthu llythyrau, dan yr enw 'Post Brenhinol'. Postir y llythyr mewn 'blwch postio' neu fe ddaw'r postmon o amgylch i'w casglu gan fusneseuon. Yna daw'r postman i wagio'r blychau post yn ddyddiol, ar wahân i'r Sul a cheisiant ddosbarthu'r llythyrau y diwrnod wedyn, ond nid yw hyn yn cael ei warantu.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "1st Class mail". Royal Mail. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-25. Cyrchwyd 15 October 2013.