Menter rhyngwladol ar y cyd rhwng Simon Cowell a Sony Music Entertainment ydy Syco Entertainment, a adwaenir weithiau fel Syco. Ffocysa'r cwmni ar gynhyrchu a marchnata cynnwys cerddorol, teledu, ffilm a digidol. Cyfloga'r cwmni weithwyr mewn dros 50 o swyddfeydd yn Llundain a Los Angeles a rheola nifer o frandiau teledu a cherddoriaeth blaenllaw trwy ei bartneriaeth gyda labelau Sony Music a chynhyrchiadau teledu, gyda FremantleMedia fwyaf amlwg. Mae Simon Cowell a Sony Music Entertainment yn berchen ar 50% o'r busnes yr un. Charles Garland, cyn-brif swyddog cwmni Simon Fuller, 19 Entertainment yw'r Prif Weithredwr Rhyngwladol, ac sy'n gyfrifol am weithrediadau o ddydd-i-ddydd y cwmni. Mae'r biliwnydd adwerthu, Syr Philip Green, sydd yn ffrind agos i Cowell, yn gweithio fel cynghorydd i'r cwmni. Mae Karren Brady hefyd yn cynghori'r cwmni.

Syco
Enghraifft o'r canlynolcwmni cyfryngau Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMai 2002 Edit this on Wikidata
PerchennogSony Music Entertainment Edit this on Wikidata
SylfaenyddSimon Cowell Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain, Los Angeles Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sycoentertainment.com/ Edit this on Wikidata

Cynhyrchiadau ar hyn o bryd golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato