Sylffwr deuocsid
Nwy di-liw yw sylffwr deuocsid (SO2) ag iddo arogl treiddgar, taglyd. Prif ffynhonnell sylffwr deuocsid yw llosgi tanwydd ffosil mewn gorsafoedd pwer, purfeydd olew a gweithfeydd diwydiannol mawrion eraill a reolir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Y sector tanwydd ag ynni yw’r ffynhonnell fwyaf o bell ffordd o sylffwr deuocsid o weithgareddau a reolir gan yr Asiantaeth a’r sector hwn hefyd yw’r ffynhonnell genedlaethol fwyaf, gan gyfrannu 73% o’r cyfanswm cenedlaethol. Mae cerbydau modur, bwyleri a thanau mewn cartrefi hefyd yn rhyddhau sylffwr deuocsid.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | sulfur oxide |
Màs | 63.962 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | So₂ |
Rhan o | response to sulfur dioxide, cellular response to sulfur dioxide |
Yn cynnwys | ocsigen, sylffwr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall sylffwr deuocsid arwain at problemau iechyd, ac yn cael effeithiau uniongyrchol ar lystyfiant acy n chyfrannu at law asid. Gellir cludo sylffwr deuocsid dros bellter maith a gall hyd at draean o’r sylffwr a waddodir mewn rhai mannau yn y DU ddeillio o ffynonellau Ewropeaidd.
Effaith ar eich iechyd
golyguGall sylffwr deuocsid lidio’r llygaid a’r pibellau awyr ac yn lidio leinin eich trwyn, gwddf ac ysgyfaint. Gall achosi i chi dagu, i’ch brest dynhau, ac i’ch llwybr anadlu gulhau a fydd yn lleihau llif aer i’ch ysgyfaint. Mae’n llidio y llwybrau anadlu, gan achosi peswch a mwy o fwcws. Mae’n gwaethygu cyflyrau fel asthma a COPD. Mae’n gwneud pobl yn fwy tebygol o gael haint ar y frest. Mae pobl sydd ag asthma yn llawer mwy sensitif i sylffwr deuocsid na phobl heb asthma, felly efallai y bydd hi’n anoddach iddynt anadlu a byddant yn cael pyliau o’r cyflwr pan fydd crynodiad sylffwr deuocsid yn uchel.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation. Am wybodaeth lawn gweler yr [ erthygl wreiddiol] gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |