Symbolaeth (celf)
Mudiad celf yn ail hanner y 19g, yn Ffrainc yn bennaf, oedd Symbolaeth. Tarddai o fudiad llenyddol Symbolaeth a arddelid gan feirdd Ffrengig oedd yn defnyddio iaith hynod o symbolaidd, llawn awgrymiadau ac arddull cynnil, i fynegi emosiynau'r unigolyn. Ymdrechai arlunwyr Symbolaidd, mewn modd tebyg, i gynrychioli neu ysgogi syniadau neu deimladau drwy arwyddion a throsiadau yn eu gwaith.
Hunanbortread gan Émile Bernard (1891). | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad diwylliannol, mudiad llenyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1857 |
Gwladwriaeth | Ffrainc, Gwlad Belg, Ymerodraeth Rwsia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Datblygodd arluniaeth Symbolaidd mewn adwaith yn erbyn celf Realaidd ac Argraffiadaeth. Ffafriodd y Symbolwyr ffantasi a'r dychymyg yn hytrach na delweddaeth wrthrychol, ac yn y mudiad hwn mae gwreiddiau celf haniaethol. Buont yn tynnu ar themâu cyfriniaeth, yr ocwlt, a chwedloniaeth yn eu celf. Roedd yn gysylltiedig ag Esthetiaeth yn Lloegr a'r Unol Daleithiau. Ymhlith y prif arlunwyr Symbolaidd mae Gustave Moreau, Odilon Redon, a Pierre Puvis de Chavannes.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Symbolism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.