Mudiad yng nghelf yn y 19eg ganrif a darddodd yn Ffrainc oedd Argraffiadaeth (Ffrangeg: Impressionnisme). Grŵp anffurfiol oedd yr Argraffiadwyr gwreiddiol a ddaeth at ei gilydd i arddangos eu peintiadau yn annibynnol o'r Salon ym Mharis, o 1874 ymlaen. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy digymell a ffres nad oedd confesiynau academaidd y cyfnod yn caniatáu, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd; hefyd roedd gan rhai o'r artistiaid eu hoff themâu y dychwelant atynt drosodd a throsodd.

Argraffiadaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, genre o fewn celf, mudiad mewn paentio, arddull mewn celf Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1860s Edit this on Wikidata
Olynwyd ganÔl-argraffiaeth, Mynegiadaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym mhlith yr Argraffiadwyr pennaf oedd Claude Monet, Pierre-Auguste Renoir, Alfred Sisley, Édouard Manet, Edgar Degas a Camille Pissarro. Daw enw'r symudiad o beintiad gan Monet, Impression, soleil levant ('Argraff, Codiad Haul', 1872), un o'r gweithiau yn yr arddangosfa annibynnol cyntaf ym 1874; bwriad y gŵr a fathodd y term, Louis Leroy, oedd i'w dychanu. Yn sgil y symudiad yng nghelf roedd symudiadau Argraffiadol yng ngherddoriaeth a llenyddiaeth.

Pierre-Auguste Renoir, La Parisienne, 1874. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.