Mudiad celf yn ail hanner y 19g, yn bennaf yn Lloegr a'r Unol Daleithiau, oedd Esthetiaeth. Credo fachog y mudiad oedd "celfyddyd er mwyn celfyddyd", gwrthodiad plaen o'r syniad bod pwrpas cymdeithasol, moesol neu addysgol i gelf. Cafodd y mudiad ei alw'n aml yn "yr addoli ar y prydferth" (Saesneg: cult of the beautiful).

Esthetiaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, mudiad llenyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1870s Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhan o'r Peacock Room gan James McNeill Whistler, un o'r enghreifftiau amlycaf o ddylunio mewnol yn yr arddull Esthetaidd

Yng nghanol y 19g, datblygodd athroniaethau yn Ewrop mewn adwaith i ddiwydiannu, defnyddiolaeth, a'r newidiadau cymdeithasol syfrdanol a fu ar doriad modernedd. Bellach, nid crefftwr angenrheidiol oedd yr arlunydd a noddid gan y frenhiniaeth a'r eglwys. Yn hytrach, dyn ar gyrion cymdeithas ydoedd a pheth y gellir ei hepgor oedd ei ddawn artistig. Honnwyd trefn o benderfyniaeth yn y byd gan athrawiaethau gwleidyddol a gwyddonol newydd, megis Marcsiaeth a Darwiniaeth, gan fygwth hunaniaeth a natur unigryw y crefftwr creadigol. Bu arlunwyr hefyd yn ofni cydymffurfio o ganlyniad i fasgynhyrchu, ac effeithiau'r gyfundrefn gyfalafol ar ddiwylliant.

Gellir olrhain gwreiddiau deallusol y mudiad i'r athronydd Immanuel Kant a ddadleuodd o blaid annibyniaeth safonau esthetaidd oddi ar foesoldeb, defnyddioldeb, a phleser. Ymhlith yr eraill i fynegi syniadau tebyg oedd Goethe a Ludwig Tieck yn yr Almaen, Samuel Taylor Coleridge, a Thomas Carlyle yn Lloegr, a Germaine de Staël, Théophile Gautier, a Victor Cousin yn Ffrainc. Ymddangosodd yr arluniaeth gynharaf yn yr arddull Esthetaidd yng nghelf y Cyn-Raffaëliaid yn Lloegr.[1]

Blodeuai'r mudiad yn Lloegr o'r 1860au i'r 1890au, ym mha le'r oedd yn gorgyffwrdd i raddau helaeth â Dirywiaeth, ac ymhlith ei brif ffigurau oedd Oscar Wilde, James McNeill Whistler, Walter Pater, Max Beerbohm, ac Aubrey Beardsley. Yno, yr oedd y mudiad yn adwaith neilltuol yn erbyn celf a dylunio Fictoraidd a gafodd ei hystyried yn oraeddfed ac yn ymhongar gan yr Esthetwyr. Dylanwadwyd ar Esthetiaeth yn gryf gan gelf Japan a Tsieina, ac roedd yn gysylltiedig â'r mudiad Celf a Chrefft, Symbolaeth, art nouveau, japonaiserie, ac adfywiad arddull y Frenhines Anne.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Aestheticism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.