Symudedd yn sgil newid hinsawdd
Mae symudedd yn sgil newid hinsawdd yn faes a astudir yn ddiweddar, gan fod y gallu i symud yn rhydd ac yn hwylus yn un o sgil effeithiau newid hinsawdd, mewn rhai rhannau o'r byd. Credir ei fod ar gynnydd. Mae canfod ateb i'r broblem yn rhan o'r maes hwn. Gellir cynnwys yn y maes hwn hefyd symudedd digidol, sef y gallu neu'r anallu i gysylltu ar y ffôn, neu dros y y we.
Math o gyfrwng | egwyddor, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Yn cynnwys | newid hinsawdd, symudedd unigol |
Mae mudo dynol oddi fewn i un wlad, neu o wlad i wlad ar gynnydd, a cheir cysylltiad cryf rhwng y mudo, neu'r ymfudo hwn a newid hinsawdd.[1]
Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd wedi dwysáu, ac mae canlyniad hyn yn cynnwys codiad yn lefel y môr, amrywioldeb hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol. Bydd mwy a mwy o bobl yn cael eu gorfodi oddi ar eu tiroedd ac allan o'u cartrefi. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn sawl rhan o'r byd, fel ag y mae gwrthdaro o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, a ragwelir i gynyddu dros y degawdau nesaf.[2]
Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn byw ar yr arfordiroedd, lle mae newid hinsawdd yn diraddio ac yn dinistrio tir, ac yn lleihau cynhyrchiant amaethyddol ymhlith pobl y mae eu bywoliaeth yn dibynnu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar adnoddau naturiol (ffermwyr, pysgotwyr, bugeiliaid).
Yn y dyfodol
golyguYn ôl adroddiadau diweddar gan y Ganolfan Monitro Dadleoli Mewnol, mae peryglon sy'n gysylltiedig â'r tywydd eisoes yn cyfrif am fwy nag 87% o'r holl ddadleoli (yn dilyn trychinebau) yn fyd-eang, ac mae trychinebau wedi achosi mwy o ddadleoliadau mewnol newydd na gwrthdaro dros y deng mlynedd diwethaf.[3]
Mewn adroddiad a ddilynodd COP 21, dywedd y Cenehedloedd Unedig: "Yn 2015, mae pobl ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu dadleoli gan drychineb nag yr oeddent yn y 1970au. Disgwylir i effeithiau newid hinsawdd gynyddu dadleoli pobl o fewn gwledydd ac yn drawsffiniol gan effeithio ar strategaethau symudedd dynol." [4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ecdpm.org; Teitl: Human mobility and climate change: Migration and displacement in a warming world; awdur: Caroline Zickgraf, ECDPM Great Insights; adalwyd 21 Mai 2021.
- ↑ nature.com; Teitl: Assessing the relative contribution of economic, political and environmental factors on past conflict and the displacement of people in East Africa gan Erin Llwyd Owain & Mark Andrew Maslin; Ebrill 2018. Adalwyd 21 Mai 2021.
- ↑ ecdpm.org; Teitl: Human mobility and climate change: Migration and displacement in a warming world; awdur: Caroline Zickgraf, ECDPM Great Insights; adalwyd 21 Mai 2021.
- ↑ unhcr.org; Teitl: CLIMATE CHANGE AND HUMAN MOBILITY; SOLUTION AGENDA –RESILIENCE–PARIS COP 21; Advisory Group on Climate Change and Human Mobility.