Y rhan o'r tir sy'n ymylu â'r môr yw arfordir (o dri gair: 'ar+môr+tir) neu forlin ('môr' a 'llin' neu 'linell'). Nid oes yna linell fanwl gywir rhwng y tir ar môr oherwydd effaith y llanw, sy'n gyfnewidiol. Oherwydd hyn, mae'r gair arfordir felly'n cyfeirio at ardal neu stribed o dir a môr, yn hytrach na llinell denau. Gellir defnyddio'r gair hefyd am lyn. Gellir cyfeirio ato fel lleoliad e.e. gellir dweud fod Caerdydd ar arfordir De Cymru.

Arfordir
Enghraifft o'r canlynolplace type Edit this on Wikidata
Mathshore Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae llawer o'r arfordir wedi'i ddiogelu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig; Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n eu hamddiffyn.

Cofnodir y gair yn gyntaf yn Brut Dingestow yn 13g: "Ac odyna y doeth Caswallavn a holl gedernyt yr enys ganthav y warchadv yr arfordir (maritima) racdav."[1]

Arfordir Cymru golygu

Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru ar 5 Mai 2012. Mae'r llwybr mor agos i'r arfordir ag y caniatâ’r gyfraith, a mae'n cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth.[2] ac mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  arfordir. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  2. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; Archifwyd 2012-07-13 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 04 Mehefin 2013.
  3. firstnature.com - Countdown to the Wales Coast Path Adalwyd 10 Gorffennaf 2012.
Chwiliwch am arfordir
yn Wiciadur.