Mudo dynol

newid parhaol i breswyliad pobl

Pobl yn symud o le i le yw mudo dynol, sef newid cartref fel rheol. Serch hynny gall mudo olygu symud dros dro - rhai dyddiol neu tymhorol yn ogystal â newidiadau parhaol rhwng gwledydd neu o fewn gwlad.

Mae llawer o bobl yn mudo i dinasoedd ar gyfer swyddi

Mudo rhyngwladol parhaol yw'r symudiad rhwng gwledydd, mewnfudwyr yw pobl sy'n cyrraedd gwlad ac ymfudwyr yw'r pobl sy'n gadael gwlad. Ers cychwyn y 21g gwelwyd mwy a mwy o ffoaduriad amgylcheddol yn dianc rhag effeithiau newid hinsawdd.

Mae yna ddau fath o fudo dynol yn y byd:

  • Mudo gwirfoddol
  • Mudo gorfodol

Enghraifft o fudo gorfodol

golygu

Mae poblogaeth yr Ynys Montserrat yn esiampl da o fudo gorfodol. Yn 1996 echdorodd llosgfynyddoedd Soufriere. Cafodd y prifddinas Plymouth, y maes awyr a nifer o bentrefi eu dinistrio gan y llifau pyroclastig. Symudodd dros hanner y boblogaeth i'r ynysoedd eraill megis Antigwa.

Enghraifft o fudo gwirfoddol

golygu

Gwelir mwy o fudo gwirfoddol yn y gwledydd MEDd nag yn y gwledydd LlEDd. Esiampl o hyn yw symud o'r Deyrnas Unedig i Awstralia. Mae’r hinsawdd yn fwy pleserus, ardaloedd byw yn fwy dymunol ac mae gan Awstralia economi cryf oherwydd cynnydd yn y diwydiant mwyngloddio.

Gweler hefyd

golygu