Syr Ernest John Hutchings Lemon
Roedd Syr Ernest John Hutchings Lemon (9 Rhagfyr 1884 – 15 Rhagfyr 1954) yn Brif Beiriannydd y Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban. Cyn dechreuad yr Ail Ryfel Byd roedd o’n Cyfarwyddiwr Cyffredin Cynhyrchiad Awyrennau, a gwnaeth weliannau i’w cynhyrchiad.
Syr Ernest John Hutchings Lemon | |
---|---|
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1884 Sturminster Newton |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1954 Epsom |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Gwobr/au | OBE, Marchog Faglor |
Bywyd
golyguGanwyd ar 9 Rhagfyr 1884 yn Okeford Fitzpaine, Sturminster Newton, Gogledd Swydd Dorset.[1] Roedd ei dad yn saer ac ei fam yn ollchwraig yn y rheithordy drws nesaf. Pan symudodd merch y rheithor i’r Alban, aeth Lemon hefyd, a mynychodd Coleg Heriot-Watt, Caeredin.[2] Roedd o’n brentis i’r Cwmni North British, ac wedyn gweithiodd dros Reilffordd yr Ucheldir ac hefyd Hurst Nelson.
Daeth o’n Brif Arolygydd Wagonnau i Reilffordd y Midland ym 1911, rheolwr y Gweithdy Cerbydau yng Ngweithdy Derby ym 1917, a Phrif Arolygydd Rhanbarthol Cerbydau a Wagonnau ym 1923, lle datblygodd llinellau cynhyrchu. Daeth o’n Brif Beiriannydd i’r rheilffordd ym 1931, er diffyg profiad yn y maes. Daeth o’n Is-Lwydd i’c Cwmni a chymerodd Syr William A Stanier drosodd fel Prif Beirianydd.
Daeth o’n aelod o Gorfflu Peirianyddion a Gweithwyr y Rheilffyrdd, uned y Fyddin Diriogaethol o’r Perianyddion Brenhinol rhwng 1929 a 1943.[3][4] Derbynnodd Urdd Marchog ym 1941.[5]
Ymddeolwyd o’r rheilffordd ym 1943 a bu farw yn Epsom ar 15 Rhagfyr 1954.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan findmypast.co.uk
- ↑ Terry Jenkins, Sir Ernest Lemon, llyfrau ‘r Gymdeithas Hanesyddol Rheilffyrdd a Chamlesi, 4 Broadway, Lincoln LN2 1SH (2011). ISBN 978-0-901461-58-2
- ↑ London Gazette |cyfrol=33555 |dyddiad=26 Tachwedd 1929 |tudalen=7662
- ↑ London Gazette |cyfrol=36121 |dyddiad=3 Awst 1943 |tudalen=3533 |supp=y
- ↑ London Gazette |cyfrol=35029 |dyddiad=1 Ionawr 1941 |tudalen=2 |supp=y