Unedau imperial

(Ailgyfeiriad o System Imperial)

Casgliad o unedau a ddiffiniwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Pwysau a Mesurau Lloegr o 1824 yw'r system o unedau imperial. Cyflwynwyd yr unedau yn y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau, gan gynnwys gwledydd y Gymanwlad (er bod y rhan fwyaf o'r wledydd hyn yn fetrig yn swyddogol), ond nid yn yr Unol Daleithiau, a oedd eisoes yn annibynnol bryd hynny.

Mesurau hyd golygu

Ar ôl 1 Gorffennaf 1959, fe ddiffiniwyd llath yr Unol Daleithiau a’r llath Brydeinig yn unfath (0.9144m) fel y llath ryngwladol.

Uned Gwerth cymharol i’r llath Gwerth metrig
Modfedd (in) 1/36 2.54 cm
Troedfedd (ft) 1/3 30.48 cm
Llath 1 91.44 cm
Cadwyn 22 ~20.12 m
Ystaden 220 ~201.2 m
Milltir (m) 1760 ~1609 m
Cynghrair 5280 ~4828 m

Mesurau arwynebedd golygu

1 erw = 1 ystaden × 1 gadwyn = 1/640 o filltir sgwâr = 43,560 o droedfeddi sgwâr = ~0.4047 ha (hectarau) = ~4047 m²

Mesurau cyfaint golygu

Yn 1824, mabwysiadodd Prydain y galwyn imperial, a fu'n seiliedig ar gyfaint 10 lb o ddŵr distylledig wedi'i bwyso mewn awyr â phwysau pres, a'r baromedr yn sefyll wrth 30 inHg (modfeddi o fercwri) â thymheredd o 62 °F. Newidiodd Deddf Pwysau a Mesurau o 1985 ddiffiniad galwyn i 4.54609L yn union.

Uned Gwerth cymharol i'r peint Gwerth metrig
Owns hylif (fl oz) 1/20 ~28.41 ml
Gil 1/4 ~142.1 ml
Peint (pt) 1 ~568.2 ml
Chwart 2 ~1.136 L
Galwyn (gal) 8 4.54609 L (yn union)

Mesurau pwysau a màs golygu

Uned Gwerth cymharol i'r pwys Gwerth metrig
Drachm 1/256 ~1.771 g
Owns (oz) 1/16 ~28.35 g
Pwys (lb) 1 453.59237 g (yn union)
Stôn 14 ~6.35 kg
Chwarter 28 ~12.7 kg
Canpwys (cwt) 112 ~50.8 kg
Tunnell (t) 2240 ~1016 kg

Sylwer bod y dunnell Brydeinig yn hafal i 2240 o bwysi ("y dunnell hir"), sy'n agos iawn i'r dunnell fetrig, er bod y dunnell a ddefnyddir yn gyffredinol yn yr Unol Daleithiau yn hafal i 2200 o bwysi ("y dunnell fer", sef 907.184 74 kg).

Gweler hefyd golygu

Cysylltiadau allanol golygu