Tân The Station
Tân a ddinistriodd glwb nos The Station yn West Warwick, Rhode Island, Unol Daleithiau America, ar 20 Chwefror 2003 oedd tân The Station.[1] O'r 462 o bobl a oedd yn y clwb ar y pryd, bu farw 100 ac anafwyd 230 ohonynt.
Cofeb dros dro i'r rhai a fu farw yn y tân, a godwyd ar hen safle The Station yn y misoedd wedi'r trychineb. | |
Enghraifft o'r canlynol | structure fire, tân mawr |
---|---|
Dyddiad | 20 Chwefror 2003 |
Lladdwyd | 100 |
Dechreuwyd | 20 Chwefror 2003 |
Lleoliad | West Warwick, Rhode Island |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Rhode Island |
Achoswyd y tân gan effeithiau pyrotechnegol yn ystod perfformiad gan y band roc Great White, ychydig wedi 11 o'r gloch yn y nos. Wedi i reolwr taith y grŵp, Daniel Biechele, danio'r tân gwyllt yn ystod y gân gyntaf, cafodd sbwng acwstig yn nenfwd a waliau'r clwb ei gynnau gan wreichion. Amgylchynwyd y llwyfan gan fflamau, ac ymhen un munud cynnyddodd y gwres ddigon i danio'r holl ddefnyddiau fflamadwy gerllaw. Ar y cychwyn, tybiodd y gynulleidfa taw rhan o'r sioe oedd y fflamau. Wrth i fwg du lenwi'r ystafell, ffoes y band drwy allanfa y tu ôl i'r llwyfan, a dechreuodd y dorf adael yr ystafell. Er yr oedd pedair ffordd allan i gyd, ceisiodd y mwyafrif o bobl ddianc drwy'r coridor cul a arweiniai at brif fynedfa'r clwb. Yn fuan iawn, llenwodd y cyntedd gyda phobl, ac achoswyd gwasgfa wrth iddynt wthio a rhuthro i ddianc o'r tân a'r mwg.
Naw mis wedi'r tân, cafodd perchnogion y clwb, y brodyr Jeff a Michael Derderian, a Daniel Biechele eu herlyn ar 200 o gyhuddiadau o ddynladdiad anfwriadol—dau gyhuddiad yr un am bob un a laddwyd, un am ddynladdiad drwy esgeulustod troseddol ac un am ddynladdiad drwy gamymddygiad. Cytunodd Biechele i bledio'n euog i 100 cyhuddiad o ddynladdiad drwy gamymddygiad, a'r brodyr Derderian i beidio â gwrthod y cyhuddiadau. Carcharwyd Biechele am ddwy flynedd, a Michael Derderian am dair blynedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) The Station nightclub fire. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2022.