Tír na nÓg
(Ailgyfeiriad o Tír na n-Óg)
Tír na nÓg yw "Gwlad yr Ieuenctid" ym mytholeg Gwyddelig a'r Wyddeleg ei hun (tír: gwlad; na: yr; nÓg: ieuenctid, sydd yr un peth o ran strwythur geiriol â'r Gymraeg). Mae'n wlad arallfydol baradwysaidd lle na cheir na haint, na henaint, nac angau. Mae'n gorwedd y tu hwnt i fyd y ddynoliaeth. Yn y chwedl Wyddeleg gynnar Immram Brain (maic Febail)(Mordaith Brân (ap Febail)), y mae'r arwr Brain a'i gyd-ymdeithion yn ymweld ag ynys sy'n cynrychioli Tír na nÓg.
Cyfansoddodd y bardd T. Gwynn Jones awdl delynegol o'r enw 'Tir na n-Óg' sy'n sôn am gariad Osian a Nia Ben Aur, merch brenin Tír na n-Óg.
- 'Mae Tír na n-Óg yn wlad,
- Lle mae haul yn lliwio môr,
- Fore neu hwyr, yn farwor [gweddillion tân glo],
- Heb wae trist adnabod tranc,
- Tragywydd y trig [preswylfa] ieuanc!'[1]
Gweler hefyd
golygu- Gwobr Tir na n-Og, gwobr lenyddol yng Nghymru ar gyfer llenorion plant.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ T. Gwynn Jones, Caniadau (Wrecsam, 1934), tt. 60-74