Y Sioe Roc gynta yn Gymraeg oedd Nia Ben Aur yn seiliedig ar yr hen chwedl Wyddelig am y tywysog Osian a Nia Ben Aur, y ferch o Dir na n-Og. Fe'i llwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974 gyda Wynford Ellis Owen yn cyfarwyddo. Cafwyd cymorth i lwyfannu'r sioe gan Gwmni Theatr Cymru. Cyfansoddwyd y caneuon gan lawer o sêr y Sîn Roc Gymraeg ar y pryd a pherfformiwyd y sioe ar lwyfan y pafiliwn gan aelodau rhai o grwpiau mwya'r cyfnod gan gynnwys Edward H. Dafis, Hergest, Ac Eraill a Sidan. Ymysg y grwpiau roedd cantorion fel Tecwyn Ifan, Alun Sbardun Huws, Heather Jones, Caryl Parry Jones, Cleif Harpwood a Sioned Mair.[1][2]

Nia Ben Aur
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1974
AwdurCleif Harpwood, Tecwyn Ifan a Geraint Jarman
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
MathSioe Roc Gymraeg

Cefndir

golygu
 
Rhaglen y cynhyrchiad o 1974

Golygyddion y sgript oedd Cleif Harpwood a Tecwyn Ifan gyda Geraint Jarman yng ngofal y farddoniaeth.

Cafwyd cymorth Cwmni Theatr Cymru i lwyfannu'r sioe wreiddiol. "Doedd y sioe, i fod yn onest, ddim yn rhy lwyddiannus iawn yn dechnegol", meddai Mici Plwm, "...gan iddynt gael helynt garw gyda'r meics. Fyddai'r Eisteddfod bryd hynny, hwyrach, ddim yn paratoi'n ddigon trylwyr ar gyfer cynhyrchiad cyn i gystadlu'r dydd ddod i ben. Mae gen i frith gof bod rhyw gystadleuaeth gerddorol bwysig ar y llwyfan tan tua hanner awr wedi deg ac wedyn criw technegol Nia Ben Aur yn gorfod mynd ati i wneud y gwaith technegol, gosod lefelau meics ac ati, yn cynnwys meics radio bryd hynny, math oedd yn anodd iawn i'w gosod o ran lefelau. Chafodd y Ilwyfaniad ddim y chwara teg y dylai fod wedi'i dderbyn gan yr Eisteddfod."[1]

"Beth dwi’n ei gofio ydi’r police escort" medde Heather Jones oedd yn portreadu Nia Ben Aur; "Digwydd bod, o’n i mewn sioe arall o’r enw Beca a’i Phlant yng Nghaerfyrddin yn rhywle, ac roedden nhw’n poeni fydden i ddim yn cyrraedd Nia Ben Aur mewn pryd. Wrth gwrs, doedd yna ddim byd ar yr hewlydd yr adeg yna o’r nos, felly roedd e’n dda i ddim; dim traffic, dim byd, dim trwbl o gwbl! Ond roedd yn gwneud i mi chwerthin, cael police escort am y tro cyntaf yn fy mywyd!"[2]

Cymeriadau

golygu
  • Nia Ben Aur
  • Osian
  • Traethydd
  • Y Brenin Ri

Caneuon

golygu

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Heather Jones a Cleif Harpwood yn y sioe Nia Ben Aur ym 1974 - llun Tegwyn Roberts

Llwyfannwyd y sioe am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974; cyfarwyddwr Wynford Ellis Owen; cynllunydd Martin Morley a Stanley Williams; cyfarwyddwr cerdd Hefin Elis; cast:

"Ro’n i’n hoffi beth o’n i’n ei wisgo", medde Heather Jones; "Yn anffodus ar y noson, doedd y meicroffôns ddim yn gweithio’n iawn, ac roedd rhaid i Cleif Harpwood ganu i lawr ffrynt fy ffrog i, achos mai dim ond fy mic i oedd yn gweithio! Roedd hwnna’n ddiddorol. [...] Roedd y sain yn wael, ac yn y papurau newydd roedd sôn fod pawb yn siomedig eu bod nhw methu’n clywed ni. Dyna pam ei bod hi wedi bod mor bwysig bod Huw Jones wedi gofyn i ni wneud recordiad yn Sain yn 1975. Roedd y sain a’r harmonïau yn iawn, a phopeth yn ffantastig."[2]

2000au

golygu
 
Logo sioe Nia Ben Aur 2003

Yn 2003, fe gynhyrchodd Theatr na n'Óg addasiad newydd o'r sioe gerdd, yn defnyddio caneuon o'r sioe wreiddiol ond gyda sgript gan Siôn Eirian; cyfarwyddwr Geinor Jones; cast:

"Dwi'n credu bod Siôn [Eirian] wedi gwneud gwaith campus gyda'r sgript," meddai'r actor Philip Hughes, "mae'n swreal a llenyddol iawn a dwi'n credu ei fod yn clymu'r caneuon yn ddestlus i'r stori." [4]

2020au

golygu
 
Logo y sioe Nia Ben Aur 2024
 
Golygfa o'r sioe Nia Ben Aur 2024

Llwyfannwyd y sioe unwaith eto yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda, Cynon, Taf 2024 i ddathlu 50 mlynedd ers y llwyfaniad cyntaf. Fel "Cyngerdd Côr yr Eisteddfod" ddisgrifwyd y noson, a "[g]wedd newydd sbon ar hen glasur."[5] Patrick Rimes a Sam Humphreys fu'n gyfrifol am roi "gwedd werinol ac electro i’r caneuon, a Bardd Plant Cymru, Nia Morais [...] [yn] creu sgript newydd sbon ar gyfer y sioe".[5] Trefniannau corawl gan Richard Vaughan; cyfarwyddo Angharad Lee; cast:

"Dyma brosiect côr yr Eisteddfod eleni, ac un o’r cyd-arweinyddion yw’r cerddor, Osian Rowlands, sydd hefyd yn brif weithredwr y fenter iaith leol yn Rhondda Cynon Taf. Meddai Osian, “Mae bod yn rhan o ddehongliad newydd o sioe sy’n gymaint rhan o hanes cerddorol Cymru wedi bod yn brofiad arbennig iawn i mi a fy nghyd-arweinyddion, Gavin Ashcroft ac Elin Llywelyn. Roedden ni’n ymwybodol o’r cysylltiad lleol, gan fod Cleif Harpwood yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Rhydfelen ac yn gwybod y byddai hwn yn brosiect fyddai’n apelio at bobl o bob oed. Ond roedd hi’n dipyn o sioc pan ddaeth bron i 400 o bobl i’r ymarfer cyntaf yn Nhrefforest ddechrau’r flwyddyn! Mae ‘na nifer fawr o gantorion di-gymraeg yn y côr eleni, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith fod pawb eisiau bod yn rhan o’r Eisteddfod. Dyma gyfle gwych i ddangos bod y Gymraeg yn llawer mwy nag iaith yr ystafell ddosbarth, ac rydw i’n gobeithio y bydd y profiad o ganu yn y côr yn rhoi hyder i bobl ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y dyfodol.”[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Plwm, Mici (2002). Meical Ddrwg o Dwll y Mwg. Gwasg Gwynedd. ISBN 0 86074 188 5.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Lle oeddwn i: Nia Ben Aur 1974". BBC Cymru Fyw. 2024-07-31. Cyrchwyd 2024-09-22.
  3. "Nia Ben Aur (album)". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-22.
  4. "Nia Ben Aur: Gwedd newydd ar hen gân" (yn Saesneg). 2003-02-07. Cyrchwyd 2024-09-22.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Mentro i Dir na nÓg newydd | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-09-22.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.